Cyngor Cymuned Llansannan Community Council Bro Aled

Llys Defaid Crwydredig / Court of Estrays

/image/upload/eifion/Stiward_Mr_Pugh_2.jpg

David Allen Pugh y Stiward presennol
David Allen Pugh the current Steward

Arglwyddiaeth Y Goron Dinbych

Crëwyd yr Arglwyddiaeth yn 1282 gan Edward 1af i wobrwyo yr Iarll Lincoln am ei wasanaeth yn yr ymgyrch i ddymchwel byddin Llewelyn Ein Llyw Olaf – Tywysog Cymru. Mae ei thiroedd wedi ei lleoli oddimewn i rannau o Siroedd Conwy a Dinbych oedd yn wreiddiol yn cynnwys pedair Cantref hynafol Isaled, Uwchaled, Isdulas ac Uwchdulas. Unwyd y Cantrefi yma yn ddau yn 1850 a’i galw yn Isaled ac Isdulas – yn aml cyfieirir at yr ardal fel Mynydd Hiraethog neu ‘Denbigh Moors’ yn y Saesneg. Tros y canrifoedd mae perchnogaeth y tir wedi newid dwylo lawer gwaith ond y mae’n awr dan oruchwyliaeth Comisiynwyr Ystad y Goron yn Llundain sydd yn dir-feistri i nifer lawer o ffermwyr lleol. Mae arwynebedd yr Arglwyddiaeth yn 7677.91 o erwau (3,107.21h.) gyda hawliau mwyngloddio yn ymestyn i 44, 972.20 o erwau (18,200h.).

Yn fuan wedi creu’r Arglwyddiaeth sefydlwyd Llysoedd a fyddai’n flynyddol yn cael eu trefnu a’i llywyddu gan Stiward,ond cyn rhoi crynodeb o weithgareddau’r llysoedd, priodol fuasai rhoi manylion or swyddi sydd yn gysylltiadol ar ddau Lys.

Y Stiward

Teitl y Stiward yn llawn yn y Saesneg yw – “Office of Steward and Keeper of the Courts Leet, Liberties and View of Frank Pledge of the Lordship of Denbigh or Denbigh-land.”

Byddai’r Stiward yn cael ei benodi gan y Goron yn wreiddiol trwy Freintlythyr wedi ei arwyddo gan y Brenin neu Frenhines ond ar Ôl 1850 byddai’r penodiad trwy Lythyr o Apwyntiad gan Gomisiynwyr Ystad y Goron sydd yn talu iddo’n flynyddol.

Prif ddyletswydd y Stiward pob blwyddyn fyddai trefnu a llywyddu’r Treflys (Leet Court) a’r Llys Defaid Dieithr (Court of Estrays).

Dyma restr (nid cyflawn o bell ffordd) o gyn- Stiwardiaid, ond sylwer nad oes dyddiadau gyferbyn a’r pedwar cyntaf ond yn Ôl pob tebyg eu bod wedi bod yn y swydd yn y 17eg ganrif a dechrau’r 18fed ganrif. Mae’r rhestr yn ei hun yn brawf ar un adeg o bwysigrwydd y Swydd:-

William Myddleton (Barwn)
William Myddleton
Richard Myddleton (Barwn)
Uvedale Price Owen Brereton 1714 – 1748
Richard Myddleton 1748 – 1795 Tâl - £40 y flwyddyn
Charles Watkin Williams-Wynne 1795 - 1850 Tâl - £40 y flwyddyn
Thomas Hughes 1850 - 1881 Tâl - £10 y flwyddyn
Hugh Robert Hughes 1881 - 1911
Arthur Foulkes Roberts 1911 - 1924
W H More 1924 - 1925 (Derbynydd y Goron tros Gymru)

John Roddam Drinkwater 1925 - 1948 (Derbynydd y Goron tros Gymru)
Evan E Roberts 1948 - 1958
George Andrew Nott 1962 - 1982
Norman Ashford 1983 - 1987
John Price Jones 1988 - 2000
David Allen Pugh 2001 -

DENBIGH CROWN LORDSHIP
The lordship was created by Edward 1st in 1282 as a reward to the Earl of Lincoln for his services with assisting in the defeat of Llywelyn, Prince of Wales. It’s lands are situated within parts of Denbighshire and Conwy, originally consisting of 4 ancient “hundred towns” namely Lower Aled, Upper Aled, Lowed Dulas and Upper Dulas. These hundred towns were amalgamated into two in 1850 being called lower Aled and Lower Dulas, this area often referred to as the Denbigh Moors. Over the centuries the ownership of the land changed hands many times but is now under the care of the Crown Estate Commissioners in London with the land let to many local farmers. The extent of this land comprises 7677.91 acres (3107.21 ha) with the mineral rights extending to 44,972.20 acres (18,20ha)
Shortly following the forming of the lordship, yearly courts were set up presided over by Stewards but prior to presenting details of their activities, it’s appropriate to detail the duties of the posts associated with the two courts.
The Steward
The full title is “Office of Steward and Keeper of the Courts Leet, Liberties and View of Frank Pledge of the Lordship of Denbigh or Denbigh-land.”
Originally, the position of Steward was by an honour letter signed by the King or Queen, but after 1850 the post was filled was by Letter of Appointment from the Crown Commissioners who pay him an annual salary.
The main duties of the Steward every year was to arrange and preside over the Leet Court and Court of Estrays.
This is a list (not complete by a long way) of past Stewards but note that there are no dates for the first four but it’s likely that they were in the posts during the 17th and the start of the 18th century. The list in itself is proof of the once importance of the Position
William Myddleton (Baron)
William Myddleton
Richard Myddleton (Baron)
Uvedale Price
Owen Brereton 1714 – 1748
Richard Myddleton 1748 – 1795 (Payment £40 per annum)
Charles Watkin Williams-Wynne 1795 - 1850 (Payment £40 per annum)
Thomas Hughes 1850 - 1881 (Payment 10 per annum)
Hugh Robert Hughes 1881 - 1911
Arthur Foulkes Roberts 1911 - 1924
W H More 1924 - 1925 (Crown representative-Wales)
John Roddam Drinkwater 1925 - 1948 (Crown representative-Wales)
Evan E Roberts 1948 - 1958
George Andrew Nott 1962 - 1982
Norman Ashford 1983 - 1987
John Price Jones 1988 - 2000
David Allen Pugh 2001 -

/image/upload/eifion/Y_Barnwyr_2.jpg

Y Beirniaid presennol / The Current Judges

Y Llys Defaid Dieithr
Y Stiward sydd yn llywyddu’r Llys yma, sefydliad sydd yn rhwymedig trwy Gyfraith Gwlad 1820, i ddychwelyd defaid crwydredig i’w perchenogion cyfreithiol. Yn y gorffennol adnabyddir y Llys yma fel y “Forest Court” gan y werin bobl. Diddorol yw nodi bod dwy fferm ar ffǐn tir y Goron sydd wedi eu lleoli yn Llansannan heddiw yn cario’r enwau “Fforest” a “Chefn Fforest”. Yn ei lyfr “Tours of Wales” gan Charles Pennant (1726 – 1798) Cyfrol 2 Tud. 178 cyfeirir at ddigwyddiad yn y bedwaredd ganrif ar ddeg pryd y bu i Bleddyn Llwyd o Hafodunos, pumed disgynydd i lawr o deulu Hedd Molwynog, wylltio’n gandryll ac yn ei dymer bu iddo droi tenantiaid ei Ystad oddiar eu daliadau yng Nghantref Archwedlog a thrwy hynny ei droi yn “forest”. I ni, yn gyffredinol, mae’r gair ”forest” yn y Saesneg yn dynodi “coedwig” yn y Gymraeg. Yn yr Hên Saesneg disgrifir “forest” fel – “a woodland area usually owned by the Sovereign, kept for hunting and having its own laws” neu “a large tract of land kept open for hunting.” a dyma eglurhad pam yn ddiweddarach y daeth y ffermydd i’w galw’n “Fforest”. Mae “Fforest” heddiw yn gartref i deulu’r diweddar John Price Williams a fu fel ei dad John Williams, Cwm, Pencefn, Llansannan yn feili i’r Llys Defaid Dieithr – rhyngddynt buont yn y swydd am drugain mlynedd.
Dyma adroddiad o Lys Defaid Dieithr a gynhaliwyd yn 1858 (maddeued ei fod yn y Saesneg) :-
Lordship of Denbigh and Denbigh Land To Wit –
At a Court (commonly called the Forest Court) for the disposal of Estrays collected within the Lordship of Denbigh and Denbigh Land between the first day of July One thousand eight hundred and fifty seven and the first day of July One thousand eight hundred and fifty eight held and kept in the Yard of the Swan Inn in the Town of Denbigh on the last named day – Before Thomas Hughes Esquire Steward of the said Lordship and Price Morris, Gentleman his Recorder.
Seventy seven Sheep were brought in by the Bailiffs of the respective Hundreds of Uwchdulas, Isdulas, Uwchaled and Isaled, parts of the said Lordship who reported that due Notice of the Court had been given in all customary places within the said Lordship.
John Roberts of Glasmor, Nantglyn, Farmer and Evan Lloyd of Diffwys, Llanrhaeadr, Farmer were appointed Arbitrators to compare the Ear marks of the Sheep with the patterns produced by the parties claiming them, and thereupon such of the said Sheep as were claimed were released and given up to the Owners thereof on proof on Oath of the identity and Ownership and on payment of the Customary fee of one shilling to the Recorder for administering the Oath, and the remainder of them were sold to
defray the expenses incident to the Collection impounding and keeping them till the Court day.
Thos. Hughes
Steward
Dyma fanylion o gyfrif o anifeiliaid a ymddangosodd mewn tri Llys yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg:-
30/6/1860 113 o Ddefaid a 29 o ŵyn – 30 o Ddefaid a 9 oen yn cael eu hawlio.
1/7/1861 125 o Ddefaid a 29 o ŵyn - 23 o Ddefaid a 4 oen yn cael eu hawlio.
30/6/1862 95 o Ddefaid a 31 o ŵyn - 24 o Ddefaid a 10 oen yn cael eu hawlio.
Dengys y fantolen yn dilyn Llys Defaid Dieithr yn 1912 i’r Barnwyr William Pierce, John Williams a John Roberts dderbyn 10/- (50p) o gostau yr un. Talwyd £3.8.0d.(£3.40p) i’r Beili William Parry, Hafod yr Anthem, Bylchau (daliad sydd heddiw o dan ddyfroedd Llyn Brenig) am gasglu a dod a 17 o ddefaid i’r Llys. Talwyd 2/6d. (121/2p) i William Roberts y ‘town crier’ am hysbysu’r Llys.
Yn y Breintlythyr, neu, yn ddiweddarach, y Llythyr o Apwyntiad, rhoddir y rhwydd hynt i’r Stiward gynnal y Llys Defaid Dieithr ar unrhyw amser y mae ef yn penderfynu’n gymwys, ond yn draddodiadol cynhelir y Llys ar ddydd Sadwrn olaf o fis Gorffennaf gan fod mwy o ddefaid dieithr yn dod i’r golwg yng nghyfnod y Gwanwyn a dechrau’r Hâf. Wedi’r Llys mae’n ofynol i’r Stiward gyflwyno mantolen i Gomisiynwyr Ystad y Goron o fewn deugain niwrnod ar Ôl Hydref 10fed.
Oherwydd gwaharddiadau llym ni chynhaliwyd Llysoedd yn 2001 a 2002 o achos y Clwyf Traed a’r Genau ac yn 1986 gohirwyd y cyfarfod hyd at Fedi 20fed o achos effeithiau trychineb Chernobyl.
Lleoliad Llysoedd Defaid Dieithr
Ym muarthau gwestai tref Dinbych y byddai’r Llysoedd Defaid Dieithr yn cael eu cynnal – mae cofnodion yn datgelu eu bod wedi eu cynnal yn yr ugeinfed ganrif a chynt ym muarthau gwestai’r Eagles, Swan a Back Row. Yn fuan ar Ôl yr Ail Ryfel Byd fodd bynnag ychwanegwyd Gwytherin a Llansannan fel canolfannau i gynnal Llysoedd gan ymweld a phob lleoliad bob tair blynedd. Yn ddiweddarach penderfynwyd defnyddio lleoliadau Gwytherin a Llansannan yn unig ac oherwydd cynhaliwyd y Llys diwethaf yn nhref Dinbych yn 1977 ym muarth gwesty’r Back Row. Yr oedd sefydlu’r Llys ym mröydd Gwytherin a Llansannan yn gwneud synnwyr gan eu bod wedi eu lleoli yng nghanol yr Arglwyddiaeth. Ar hyn o bryd cynhelir y Llysoedd bob yn ail blwyddyn
ym muarth Bryn Tân, Gwytherin trwy ganiatad caredig Emyr Roberts ac ym muarth Efail Uchaf, Llansannan trwy ganiatad caredig Ms Olwen Davies.
Cyn cynnal Llys mae rhaid paratoi ymlaen llaw ac yn anffodus mae cysgod y Clwyf Traed a’r Genau wedi gadael ei Ôl ar draddodiad sydd yn ganrifoedd oed ac wedi ychwanegu mwy o waith trefnu.
Yn gyntaf mae rhaid gwneud cais i DEFRA am drwydded i ddefnyddio’r safle gan ei fod yn cael ei ystyried fel “crynhoad anifeiliaid” o dan Orchymyn Crynoadau Anifeiliaid (Cymru) 2010. Yn dilyn y cais, sydd yn hanfodol ei wneud yn flynyddol, mae’r safle yn cael ei ymweld gan swyddog y Gwasanaeth Milfeddygol Wladwriaethol gyda aelod o Adran Safonau Masnachol y Cyngor Sir. Trwyddedir y safle petai yn cael ei ystyried yn addas gyda ymrwymiad i gadw i reolau diheintio fel yn unrhyw farchnad anifeiliaid arferol.
Tua mis cyn y cyfarfod anfonir hysbysiad ysgrifennedig am y Llys i :-
Gomisiynwyr Ystad y Goron yn Llundain.
Knight Frank, Henffordd – Asiantaeth Ystad y Goron.
Y Barnwyr, y Beili, y Cynorthwywyr.
Perchennog y safle.
Gwmni Arwerthu, Rhuthun.
Glercod Cymunedau Llanfair Talhaiarn, Llangernyw, Llansannan a Llannefydd gyda posteri i arddangos mewn mannau amlwg yn eu Cymunedau.
Y Wasg – hysbysebiad ar y radio.
Yn ychwanegol bydd rhaid gofalu llogi’r Ganolfan leol a threfnu lluniaeth.
Diwrnod y Llys – Trefn y Dydd
Ar y diwrnod penodedig cyrchir y defaid crwydredig i leoliad y Llys gan y ddau Beili ac fe’i rhoddir mewn corlan yn un o adeiladau’r buarth o olwg y cyhoedd. Y cam nesaf fydd i’r defaid gael eu archwilio gan filfeddyg – dyma un o amodau trwyddedu’r safle.
Am 11 o’r gloch yn brydlon mae’r Stiward yn galw sylw’r bobl sydd yn bresennol ac wedi gair byr o groeso cyhoeddir – “Yn unol a rhybuddion sydd
wedi eu hysbysu yn y Wasg ac mewn mannau priodol oddifewn i’r Arglwyddiaeth cyhoeddir fod y Llys yn awr mewn sesiwn.”
Y cam nesaf yw i’r Stiward, gyda’r Beibl yn ei law dde, draddodi’r llwon i’r Barnwyr fel y canlyn:-
“Gofynnir i chwi fel Barnwyr ymholi’n fanwl ynghylch y cyfryw bethau a gyflwynir o dan eich gofal a gosod cyflwyniad cywir ohonynt. Ni wnewch gyflwyno dim oherwydd casineb neu falais ac fe wnewch chwaith guddio dim oherwydd cariad, ofn, neu garedigrwydd. Ond ymhob peth a gyflwynwch, wneud hynny yn gywir ac uniawn. Duw a’ch cynorthwyo.” (Yna mae’r Stiward yn cusanu’r Beibl).
Trosglwyddir y Beibl i law dde y Barnwr cyntaf ac yna dywed y Stiward – “Yr ydych chwi (enw’r Barnwr) yn tyngu yn enw Duw Hollalluog y rhoddwch eich dyfarniad yn wir, a dim ond y gwir?” (Y Barnwr i gusanu’r Beibl a dweud “Ydwyf”, cyn ei roddi’n Ôl i’r Stiward i’w roi i’r Barnwyr eraill yn eu tro).
Wedi’r ddefod rhoddir cyfarwyddiad i arddangos cynnwys y gorlan.
Yn y cyfamser bydd y Cynorthwywr wedi gofalu bod yr unigolion sydd wedi dod i’r Llys gyda’r pwrpas o hawlio anifail, pe bai un yn berthynnol iddo yn digwydd bod yn y gorlan, wedi rhoi manylion ei nÔd clust yn y blwch nodau - yn y gorffennol ni fuasai’r Llys yn caniatau cais o hawlio cyn sefydlu yn gyntaf bod y nÔd yn y blwch yn cyfateb.
Petai cais o hawlio yn cymeryd lle mae’n arferol i’r Beili ddaeth ar ddafad i’r Llys ar darpar berchennog ddod ar anifail o flaen y Barnwyr. Trafodir y cais gan y Barnwyr trwy astudio’r nÔd clust ac ymholi’r hawliwr a’r Beili i gadarnhau fod y cais yn un dilys. Petai’r Barnwyr yn cytuno i gais yr hawliwr mae’n arferol i ddirwyo’r perchennog tua £1.00 am ei fod wedi gadael yr anifail grwydro yn y lle cyntaf, ac, yn ychwanegol i dalu costau - y swm yn dibynnu pa mor hir y mae wedi bod yng ngofal y Beili. Mae’r Llys yma, ynghyd a Threflys Laxton yn Swydd Nottingham yn unigryw gan eu bod ers eu sefydlu wedi cadw’r hawl i ddirwyo.
Am hanner dydd gwerthir y defaid na hawliwyd gan aelod o Gwmni Ocsiwn Ffermwyr Rhuthun. Dyma fanylion y cyfrif o ddefaid a fu trwy’r Llys yn ystod y pedair blynedd diwethaf:-
Blwyddyn Nifer yn y Llys Nifer Hawliwyd Nifer
Werthwyd
2003 21 8 13
2004 30 - 30
2005 20 2 18
2006 34 1 33
Yn dilyn y Llys bydd gwledd wedi ei baratoi gan ferched lleol yn ein disgwyl yn y Ganolfan ond cyn ymborthi fe ofynnir bendith Duw gan y Cynorthwywr. Ar derfyn y pryd gwahoddir unrhyw sylw o’r llawr neu pan fo’r angen dderbyn enwebiadau i lenwi swydd Barnwr neu Ddirpwy Farnwr. Terfynir y cyfarfod gyda diolchiadau gan y Stiward.
‘Rydym fel cefnogwyr yn edrych ar y Llys gyda balchder ac yn obeithiol y bydd yn ffynnu and genedlaethau i ddod. Yn galonogol iawn, er bod yn ddi-elw yn fwy aml na dim oherwydd costau cynnal uchel, mae Comisiynwyr Ystad y Goron yn gefnogol iawn ac yn gwerthfawrogi cysylltiad gyda traddodiadau fel y Llys Defaid Dieithr. Profwyd hyn ganddynt yn 1981 pan brynwyd Ystad Laxton, sydd yn mesur tua 1860 o erwau (752.55h.), gan Gomisiynwyr Ystad y Goron am £1,000,000 a thrwy hynny sicrhau ffynniant y Treflys sydd yn gysylltiedig a ffermio 500 o erwau’r ystad yn y dull “meusydd agored” (strip farming) oedd yn cael ei ymarfer yn helaeth yn Lloegr hyd at ddechrau’r bedwaredd ganrif ar bymtheg.

/image/upload/eifion/Defaid_eto_2.jpg

Penodwyd y Cofrestrydd gan y Stiward a fyddai hefyd yn gweithredu fel Dirpwy Stiward. Ysgrifennyddion i’r Llysoedd oedd y Cofrestrwyr ac yn gofalu am gasglu dirwyon oedd yn ddyledus. Gorchwyl pwysig arall y Cofrestrydd fyddai gofyn i hawliwr anifail yn y Llys Defaid Dieithr fynd ar ei lw i brofi mai ef oedd y gwir berchennog – am y gwasanaeth yma byddai raid i’r hawliwr yn yr 1850au dalu swllt (5p) i’r Cofrestrydd. Mae’n debyg mai’r Cofrestrydd fyddai hefyd yn gyfrifol am roi’r llwon i ddiffynyddion, tystion a rheithgor mewn Treflys.

Diddymwyd swydd y Cofrestrydd yn 1911.

Dyma restr Cofrestrwyr sydd ymhell o fod yn gyflawn:-

Thomas Hughes Dim dyddiadau
Thomas Hughes (mab yr uchod) 1823 – 1850
Price Morris 1850 - 1869
Hugh Robert Hughes 1869 - 1881
W H Owen 1881 - 1898
Arthur Foulkes Roberts 1898 - 1911

Y tâl am wneud y swydd yn 1748 oedd 6s 8c (tua 33 ceiniog heddiw)
y flwyddyn ond erbyn 1895 roedd y tâl wedi codi i £3.

Pan ddiddymwyd swydd y Cofrestrydd apwyntiwyd Dirpwy Stiwardiaid gan y Comisiynwyr.

Pan benodwyd J R Drinkwater, Derbynydd y Goron tros Gymru yn Stiward yn 1925 nid oedd yn byw yn lleol ac nid oedd yn hyddysg yn y Gymraeg. Oherwydd hynny fe benodwyd Evan E Roberts fel ei Ddirpwy gan y Goron ar gyflog o £5 y flwyddyn a bu yn y swydd hyd iddo olynu J R Drinkwater fel Stiward yn 1948.

Penodwyd John Oliver Burton fel Dirpwy Stiward yn 1953.

Fe benodwyd G A Nott fel Dirpwy Stiward yn 1958 ar gyflog o £3 y flwyddyn cyn iddo olynu Evan E Roberts fel Stiward.

Bu Norman Ashford yn Ddirpwy Stiward yn 1980 i G A Nott a dilynodd ef fel Stiward yn 1983.

Ni phenodwyd Dirpwy ar Ôl 1983.

Y Barnwyr

Yn y Llys Defaid Dieithr mae tri Barnwr yn eistedd i drafod unrhyw gais i hawlio anifail. Yn absenoldeb un o’r Barnwyr cymerir ei le gan y Dirpwy Farnwr. Petai ond dau Farnwr yn eistedd ar y diwrnod a’u bod yn methu a chytuno ar achos mae hawl gan y Stiward i dorri’r ddadl un ffordd neu’r llall.

Petai Barnwr yn “sefyll i lawr” trwy ymddeol fe gaiff y Dirpwy ei ddyrchafu yn ei le. Penodir Dirpwy neu Farnwr os nad oes Ddirpwy penodedig trwy gynnigion cefnogwyr y Llys mewn trafodaeth ar Ôl blasu’r lluniaeth. Mae’n ofynol i unigolyn a enwebwyd fod yn hyddysg mewn adnabod clustnodau defaid gan fod y pwyslais mwyaf yn cael ei roi ar unrhyw gais i hawlio anifail yn y Llys. Mae apwyntiad fel Barnwr yn parhau’n amhenodol.

Dyma Farnwyr presennol y Llys gyda blwyddyn eu apwyntiad mewn cromfachau: -

Dei H Dafis, Gorsedd Grucyn, Nant y Rhiw, Llanrwst (1997)
William E. Williams, Hafod, Gwytherin (2003)
Emrys T. Williams Ochor y Cefn, Llansannan (2003)
Elwyn Robert Davies, Pen Aled, Llansannan (Dirpwy) 2011


Y Beili

Yn y gorffennol, cyn 1850, byddai’r Stiward yn penodi Beili yn y bedair Cantref oddimewn i’r Arglwyddiaeth. Ar Ôl 1850, pan unwyd y Cantrefi yn ddwy, dau Feili a benodwyd. Eu gorchwyl fyddai, ar orchymyn ysgrifennedig y Stiward, oedd cyhoeddi a hysbysu dyddiad a lleoliad y Llysoedd yn eu Cantrefi, casglu rheithgor a chyflwyno achosion o droseddau ar dir y Goron gerbron y Llys. Yn ychwanegol y Beili fyddai’n gyfrifol am gasglu defaid crwydredig a chynorthwyo yn y Llys hwnnw. Mae’n amlwg, oddiwrth y gorchwylion y disgwylir iddynt eu gyflawni bod cryn gyfrifoldeb yn perthyn i’r swydd neilltuol yma.

Mae mantolen y Llys Defaid Dieithr am y dair blynedd rhwng 1860 a 1862 yn dangos bod y Stiward yn ei gostau yn hawlio £1.00 am baratoi gwarant oedd yn rhoi’r awdurdod i’r Beili gasglu defaid dieithr yn eu Cantrefi a dod a hwy i’r Llys yn Ninbych. Yn Ôl y fantolen cyflogwyd bugail am flwyddyn i edrych ar Ôl y defaid dieithr yn y ddwy Gantref – ei gyflog oedd 2/6d yr wythnos yn gwneud cyfanswm am y flwyddyn yn £6.10.0 (£6.50p).

Y dyddiau yma hefyd penodir y Beili gan y Stiward – un yn ardal Gwytherin ar llall yn ardal Llansannan. Eu prif orchwyl i’w casglu defaid dieithr a’u cadw hyd at ddiwrnod y Llys. Mae’r Stiward hefyd yn ddibynnol ar eu cymorth ar ddiwrnod y Llys.

Dyma Feili presennol yr Arglwyddiaeth gyda blwyddyn eu apwyntiad mewn cromfachau:-

Clwyd M Jones Pencaecwm Llansannan (2010)
Meirion Williams, Llwyn Saint, Gwytherin. (1994)

Yn 1977 apwyntiwyd Robert Williams, Penrallt, Llansannan yn Feili yn yr Arglwyddiaeth. Ei brif ddyletswydd yw cadw golwg ar dir y Goron a hysbysu unrhyw ymyrraeth i’r Comisiynwyr. Mae’r apwyntiad yma yn hollol ddigyswllt a’r Stiward a Beili Llys y Defaid Dieithr. Y Beili presennol yw Sion Clwyd Evans, Gilfach, Llansannan. (apwyntwyd 2013)

Y Cynorthwywyr

Ar ddiwrnod y Llys mae’r Stiward yn ddibynnol ar gymorth ei Gynorthwywyr gan fod nifer o fân orchwylion i’w cyflawni i sicrhau bod popeth yn rhedeg yn esmwyth. Teg nodi yn y fan yma am gefmogaeth brwdfrydig dau gyn gyn-gynothwywyr a roddodd flynyddoedd o wasanaeth i'r Llys. Cyfeirio wneir at y diweddar Cemlyn Williams Pentre, Gwytherin a'r diweddar William Jones, Frondeg, Llansannan

/image/upload/eifion/Nodau_clustiau_2.jpg

Tudalen o lyfr yn cynnwys nodau clustiau ffermydd lleol
A page from a book containing ear notches as used on local farms

Llys Defaid Dieithr Arglwyddiaeth Dinbych - 1908
Court of Estreys, Denbigh Lordship-1908

This is a report of the Court of Estrays presided over by the Assistant Steward, Arthur Foulkes held in the yard of the Back Row Hotel Denbigh on 25th July 1908. Normally it would have been Mr Roberts that would preside over the Court rather than the Steward himself.

The activities of the Court were conducted in the normal manner with a higher than usual assembly of supporters. According to the press, there was over a 100 farmers present. The report following the Court stated that there was a higher number of sheep also present although no figure is disclosed. In the period between 1909 and 1928, on average there were about 40 sheep shown on the day-the highest number of 75 in 1919 with the lowest number of 19 in 1923

Amongst those who proved that they owned sheep present were Owen Williams from Plas Madoc Llanfair TH (now in the parish of Llansannan) who claimed 9 sheep and his claim was upheld by the Judges. However he refused to pay the usual fee of 4/ (20p) a head.

John Davies from Ty Uchaf Llanfair TH (in the parish of LLangernyw today) successfully claimed nine ewes an four lambs. He also, initially refused to pay the normal fee. It was stated in the report following the Court that the Deputy Steward had been in consultation with John Davies regarding his sheep during the days prior to the meet, but unfortunately nothing is documented

Richard Griffiths, Beidiog Uchaf Llansannan successfully claimed nine sheep and two lambs and he as the former shepherds, refused to pay the usual fees

All other claimants paid their dues.

The Steward O. R. Mosely appeared in person to oversee the sale of the remaining sheep. It was explained to the prior three shepherds that their claimed sheep would be sold along with the unclaimed sheep should the appropriate fees not be paid. Owen Williams and John Davies duly paid up but Richard Griffiths was not prepared to do this and reluctantly and under protest, allowed his sheep to be auctioned alongside the unclaimed ones following the Court. He added that his sheep had come to the possession of the Bailiff whilst they had no right to receive them and he accused the Bailiff of possessing them illegally during the night.
Whilst the issue was discussed, the crowd became agitated and because of the disorder, the local Police were called for in order to restore order.

Usually, the unclaimed sheep were sold together but on this occasion the auctioneer decided, fearing that there would be no bids, organised two separate pens. The unclaimed sheep were sold first without any bother but no bid was received for the second pen and they were withdrawn. Total chaos erupted whilst the sheep claimed by Richard Griffiths were being auctioned. Following the unsuccessful sale, the Bailiff refused to take charge of these sheep but Richard Griffiths agreed in the end to their receipt upon payment of 3/ instead of the customary 4/.

It was considered that the revolt had been arranged before hand and those in attendance believed that the Bailiff had taken possession of the wandering sheep through unfair means. The Steward received confirmation from the Bailiff that he had found Owen Williams and Richard Griffith’s sheep on Moel Fodiar – Crown land between Llansannan and Henllan, some considerable distance from their home grazing again on Crown land. As far as John Davies’ sheep were concerned, the Bailiff stated that he had received an anonymous letter requesting a meeting with someone on a stated date at two o’clock in the morning at an appointed gate. The Bailiff adhered to these arrangements and he received the sheep from an unknown man who stated that they were grazing on common land where the owner had no grazing rights. The site was not disclosed and it must be said that this seemed a ‘tall story’ and rather difficult to swallow. Wonder if it was a coincidence that the three farmers had lost nine sheep each!

I quote from an article that was published in the Welsh Coast Pioneer following the event

Scene at a Denbigh Manor Court

Farmers And Impounded Sheep

“Unusual scenes were witnessed at Denbigh on Saturday, in connection with the annual Court of Estrays for the Manor of Denbigh and Denbigh Land.
This ancient court is held annually at the Back Row Hotel yard, and on Saturday a large number of farmers who graze their sheep on the Hiraethog Mountain were in attendance, and ready, according to custom, to claim their “lost” or strayed sheep impounded by the Bailiff.
Three Judges sat, and the farmers had to satisfy them in regard to the ear marks, pitch stamps, etc. that the sheep they claimed were really theirs. For each sheep thus claimed 4shillings was charged by the officials of the court.
Several farmers refused to pay, suggestions being thrown out that some of the sheep had been impounded when not straying.
Mr O.R. Moseley, who presided, urged that the question was a legal one, and asked the men to pay under protest.
For some time the proceedings of the court were at a standstill. The officials were surrounded by nearly a hundred farmers, who clamoured for an explanation from the bailiffs as to where they found the sheep straying.

When Mr Moseley announced that the sheep in respect of which payment had been refused would at once be sold by auction , the crowd positively declined to leave the premises, and at last the police were sent for and cleared the shed. The auctioneer was ready to proceed with the sale, but the crowd surrounded Mr Moseley, and the argument continued for another hour. So excited did the farmers become that the sale was eventually declared off, and it is understood that the farmers afterwards paid under protest. Mr Moseley acted throughout with much tact.”

/image/upload/eifion/Yr_ocsiwn_2.jpg

Yr Arwerthiant / The Auction

Y Treflys neu Lys Cantref

Cynhaliwyd y Treflys olaf yn Arglwyddiaeth Dinbych yn Neuadd y Pledion Cyffredin yn nhref Dinbych ar Fawrth 28ain 1931. Dyma’r manylion a gofrestrwyd

The Lordship of Denbigh and Denbigh Land to wit –

At the Court Leet and view of Frank pledge with the Court Baron of our Sovereign Lord the King held and kept or in and for the said Lordship of Denbigh and Denbigh land on Saturday 28th day of March 1931 in the twenty second year of the reign of our Sovereign Lord George V King of the United Kingdom and Ireland and in the year of our Lord one thousand nine hundred and thirty one.

Before Evan Ellis Roberts Deputy Steward of the said Lordship according to custom and so forth.

The names of the jurors empanelled and sworn to enquire between our Sovereign Lord the King and body of the said Lordship and Denbigh land.

David Williams, Plas Uchaf, Llannefydd.
Tudor Jones, Berain, Llannefydd.
Henry Williams, Penybryn, Llannefydd.
Isaac Jones, Plas Cwta, Llannefydd.
Thomas Storey Williams, Penbrynllan, Llannefydd.
William Williams, Myfoniog, Llannefydd.
Robert Thomas Owen, Plas Panton, Llannefydd.
David Owen, Plas Buckley, Llannefydd.
Owen Williams, Penygribin, Llannefydd.
John Pritchard, Pantyronnen, Llannefydd.
Thomas Foulkes Jones, Tanllan, Llannefydd.
John Jones, Ty Mawr, Llangwm.

Presentments

1. John Richard Jones, Bryn Deunydd, Llannefydd for enclosing one acre more or less of the King’s Waste or Common land in the parish of Llannefydd. Refused

2. Robert George Young, Glanygors, Llannefydd for enclosing half an acre more or less of the King’s Waste or Common land in the parish of Llannefydd. Fined 10/- Rent 1/-

3. Jane and Mary Catherine Jones, Bryn Isa, Llannefydd for enclosing one acre more or less of the King’s Waste or Common land in the parish of Llannefydd. Adjourned

4. Isaac Roberts, Bryn Canol, Llannefydd for enclosing three quarters of an acre more or less of the King’s Waste or Common land in the parish of Llannefydd. Fined 15/- Rent 2/-

Ar ddiwedd pob adroddiad o weithgareddau’r Llys byddai pob aelod o’r rheithgor yn rhoi ei lofnod a’i gyfeiriad.

Diddymwyd Treflysoedd yng Nghymru a Lloegr yn 1932 ond wrth gwrs mae eithriadau gan fod Treflysoedd Manordy Laxton yn Swydd Nottingham a Manordy Portland yn Swydd Dorset yn dal i weithredu’n flynyddol fel y Llys Defaid Dieithr Arglwyddiaeth y Goron Dinbych.

website link,_Nottinghamshire
website link

The Court Leet

The last Court Leet of Denbigh Lordship was held at the General Debating Hall in Denbigh town on March 28th1931
These are the details that were recorded:

The Lordship of Denbigh and Denbigh Land to wit –

At the Court Leet and view of Frank pledge with the Court Baron of our Sovereign Lord the King held and kept or in and for the said Lordship of Denbigh and Denbigh land on Saturday 28th day of March 1931 in the twenty second year of the reign of our Sovereign Lord George V King of the United Kingdom and Ireland and in the year of our Lord one thousand nine hundred and thirty one.

Before Evan Ellis Roberts Deputy Steward of the said Lordship according to custom and so forth.

The names of the jurors empanelled and sworn to enquire between our Sovereign Lord the King and body of the said Lordship and Denbigh land.

David Williams, Plas Uchaf, Llannefydd.
Tudor Jones, Berain, Llannefydd.
Henry Williams, Penybryn, Llannefydd.
Isaac Jones, Plas Cwta, Llannefydd.
Thomas Storey Williams, Penbrynllan, Llannefydd.
William Williams, Myfoniog, Llannefydd.
Robert Thomas Owen, Plas Panton, Llannefydd.
David Owen, Plas Buckley, Llannefydd.
Owen Williams, Penygribin, Llannefydd.
John Pritchard, Pantyronnen, Llannefydd.
Thomas Foulkes Jones, Tanllan, Llannefydd.
John Jones, Ty Mawr, Llangwm.

Presentments

1. John Richard Jones, Bryn Deunydd, Llannefydd for enclosing one acre more or less of the King’s Waste or Common land in the parish of Llannefydd. Refused

2. Robert George Young, Glanygors, Llannefydd for enclosing half an acre more or less of the King’s Waste or Common land in the parish of Llannefydd. Fined 10/- Rent 1/-

3. Jane and Mary Catherine Jones, Bryn Isa, Llannefydd for enclosing one acre more or less of the King’s Waste or Common land in the parish of Llannefydd. Adjourned

4. Isaac Roberts, Bryn Canol, Llannefydd for enclosing three quarters of an acre more or less of the King’s Waste or Common land in the parish of Llannefydd. Fined 15/- Rent 2/-

The end of the report following the Court sitting each member of the jury would sign the document and including their addresses.

Court Leets were discontinued in England and Wales in 1932, but there are exceptions as these continue in Laxton Manor, Nottinghamshire and Portland Manor, Dorset annually as the Court of Estrays in the Lordship of Denbigh.

website link,_Nottinghamshire
website link

Llys Defaid Crwydredig / Court of Estrays Statistics: 0 click throughs, 1436 views since start of 2024

Arwydd.jpgLlys Defaid Crwydredig / Court of Estrays

Arwydd y tu allan i Efail Uchaf, man cynnal y LLys
The sign outside of Efail Uchaf the site of the Court

Mae'r wybodaeth wedi ei dderbyn gan Mr D A Pugh
This information is supplied by Mr D A Pugh

Cynhaliwyd eleni yn Llansannan ar Ddydd Sadwrn y 27ain o Orffennaf.
This year it was held on Sarurday 27th July

Rhaglen y Dydd
1. 11.00yb Gair o groeso.
2. Agor y Llystrwy ddweud:'Yn union a rhybuddion a arddangoswyd mewn mannau cyhoeuddusyn nhalgylch Y Stad y Goron cyhoeddaf fod y Llys yn awr mewn sesiwn' "Duw gadwo'r Frenhines"
3. Rhoi'r Llw i'r Beirniaid.
4. Gollwng y defaid.
5. 12.00yb Cyhoeddi'r arwerthiant a hysbysu bod lluniaeth ar gael yn y Ganolfan
6.Arwerthiant
Yn Y Ganolfan
1. Y Fendith cyn bwyta
2. Y Stiward i annerch
3. Diolchiaddau
a) Cynrychiolwyr Ystad y Goron
b) Cynrychiolydd Adran Safonau Masnach Cyngor Conwy (os yn bresennol)
c) Y Beirniaid (4)
ch) Y Sietwyr (2)
d) Fy Nghynorthwywyr
e) Prynwyr y defaid
f) Yr Arwerthwr
ff) Beili'r Ystad-Sion Clwyd Evans
g) Perchennog Efail Uchaf-Mrs Olwen Davies
ng) Clercod y Cymunedau Llansannan, Llanfair T H, Llangernyw a Llannefydd
h) Trefnwyr y lluniaeth
i) I bawb a ymwelodd a'r Sêt
4. Unrhyw fater arall
5. Cynhelir Llys Defaid Crwydredig 2014 ym Mryn Tân Gwytherin ar Orffennaf 28ain
6. Cau

The day's programme
1. 11.00am Words of Welcome
2. Opening of the Court-'In accordance with the public notices displayed within the Lordship of Denb igh the Court is now in session " God Save the Queen"
3. The Steward gives the Oath to the Judges
4. The stray sheep are publicly released for veiwing by the assembled
5. 12.00pm. The sale of the unclaimed sheep is announced and carried out. Announcement made regarding the availability of refreshments in the Community Centre

At the Community Centre
1. Grace prior to the meal
2. Steward's address
3. Vote of thanks
a) Representative of the Crown Estate
b) Trading Standards Representative (if present)
c) The Judges (4)
ch) The Stray Sheep Bailiffs (2)
d) My assistants
dd) The Auctioneer and livestock buyers
e) The Estate Bailiff- Sion Clwyd Evans
f) Mrs Olwen Davies, for use of Efail Uchaf
ff) Clerks of the Communities of Llansannan, Llanfair T H, Llangernyw and Llannefydd
g) The ladies that prepared the refreshments
ng) Everybody that attended the Court
4. Any Other Business
5. The 2014 Court of Estrays will be held on Saturday 28th July at Bryn Tân Gwytherin
6. End of proceedings

Cyngor Cymuned Llansannan Community Council Henllan Conwy

Powered by Your Tourism Community

Cyngor Cymuned Llansannan Community Council Statistics: 67 click throughs, 40015 views since start of 2024