Cyngor Cymuned Llansannan Community Council Bro Aled

ADRODDIAD BLYNYDDOL 2025-2026 ANNUAL REPORT

CYNGOR CYMUNED LLANSANNAN COMMUNITY COUNCIL ADRODDIAD BLYNYDDOL 2025-2026 ANNUAL REPORT 2025-2026 Trafodwyd 14eg o Geisiadau Cynllunio a cefnogwyd pob un ond un. Mabwysiadwyd Polisi Bioamrywiaeth yn ystod cyfarfod Mis Ebrill a cyn hir bydd arwyddion yn ymddangos mewn mannau a adawir gan y Cyngor i ddenu bywyd gwyllt, yn esbonio hyn. Or diwedd gosodwyd llinellau melyn er atal parcio tu allan i Llain Hiraethog. Roedd y mater yma wedi cymryd tros dair blynedd i'w wireddu. Cafwyd nifer enfawr o gwynion gan drigolion y pentref ynghylch parcio yma a oedd yn achosi peryglon i yrwyr, felly `roedd rhaid gweithredu ar y mater. Bu problemau eraill yn Llain Hiraethog hefyd gyda ymddygiad un o'r tenantiaid. Roedd achos o Heddlu arfog yma a cau y ffordd i gerbydau a cherddwyr. Mae y tenant wedi ei symud ac yn annhebygol o ddod yn Ôl i'r pentref. Pwysodd y Cyngor Cymuned ar Grŵp Cynefin er datrys hyn, ac hefyd ar symud ceir ac ysbwriel a oedd wedi ei gadael ym maes parcio'r stryd yma. Yn anffodus, nid oedd yn bosib i'r Cyngor ddarparu sgipiau er defnydd y cyhoedd gan nad oedd unrhyw gwmni'n fodlon gwneud y ddarpariaeth. Hefyd, er llythyru cyson, nid oedd yn bosib cael bin sbwriel ym Mryn Rhyd yr Arian nag yn y Groes, ger cilfan barcio Taldrach. Uwchraddiwyd y system CTCC yn y Swyddfa Post, Cynhaliwyd y Cynllun Chwarae Haf wedi ei drefnu gan y Swyddog Datblygu, Chwaraeon Gwledig ac fe oedd nifer ardderchog o blant yn ei fwynhau, dwy waith yr wythnos yn ystod gwyliau'r haf. Yn ychwanegol, cyflawnwyd Coed Nadolig i'r ysgol a'r pentref a gosodwyd addurniadau o naws Nadoligaidd ar bolion goleuadau trwy'r llan. Darparwyd Cinio Nadolig y Pensiynwyr ar y nos Wener 1af o Rhagfyr gyda bron i 100 yno yn mwynhau. Cynhaliwyd dau gyfarfod i'r Cyhoedd yn ymwneud a Chynllunio. Roedd y cyntaf yn y Groes ym ymwneud a chodi adeilad i 32000 o ieir. Nid yw trigolion yr ardal yn hapus am hyn a daeth nifer dda i'r cyfarfod er trafod a datgan ei anfodlonrwydd a'r cynllun hwn. Ni fydd y Cyngor yn cefnogi hwn. Cynhaliwyd yr ail gyfarfod yng Nghanolfan Addysg Bro Aled, Llansannan i drafod a datgan barn ar gynllun o godi 5 twrbein gwynt ar Fynydd Tryfan. Roedd yn agos i 200 o bobl wedi mynychu'r cyfarfod yma. Bydd y Cyngor yn gwrthwynebu'r cynllun hwn pan fydd cais swyddogol ar y gweill. Fel yn arferol, pob blwyddyn, cynhaliwyd Gwasanaeth Sul y Cofio ym mis Tachwedd gyda lawer o drigolion y pentref yn troi allan i gefnogi a cymryd rhan. Trist oedd clywed am farwolaeth y Cynghorydd Berwyn Evans ym mis Medi 2025. Bu Berwyn yn gwasanaethu ar y Cyngor am dros 20 mlynedd a mawr yw ei golled. Cyfetholwyd Susan Van-Look i'r sedd wag ym mis Mawrth 2026. Ar hyn o bryd mae'r Cyngor yn gweithio ar fater o Drosglwyddiad Ased Cymunedol, sef Cae Chwarae, Maes Gogor, Llansannan. Golygir hyn y bydd Cyngor Cymuned Llansannan yn berchennog ar y safle wedi dros 30 mlynedd o berchnogaeth gan Gynghorau Clwyd, Colwyn a Conwy. Bydd Cymdeithas Chwaraeon Bro Aled yn denantiaid i'r Cyngor ac yn gofalu am y safle i'r dyfodol. Penodwyd contractwr newydd i wneud gwaith i'r Cyngor yn dilyn ymddiswyddiad Mr Arfon Wynne yn 2025. Roedd Arfon wedi gwneud gwaith cynnal a chadw llwybrau cyhoeddus y plwyf a gwaith arall ers dros degawd. Y contractiwr a benodwyd yn 2026 ydy Dafydd Cernyw Jones a byddwch yn sylwi ar ei waith o amgylch Llansannan a Groes. 14 Planning Applications were discussed and all but one were supported. The Biodiversity Policy was adopted during the April meeting and soon, signs will appear in areas left by the Council to attract wildlife, explaining this. Also, yellow lines were installed to prevent parking outside Llain Hiraethog. This matter had taken over three years to implement. There had been a huge number of complaints from village residents about parking here, which was causing dangers to drivers, so action had to be taken on the matter. There were other problems in Llain Hiraethog as well with the behaviour of one of the tenants. There was an armed Police incident here and the road was closed to vehicles and pedestrians. The tenant has been moved and is unlikely to return to the village. The Community Council pushed the Cynefin Group to resolve this, and also to move cars and rubbish that had been left in the street's car parking area. Unfortunately, it was not possible for the Council to provide skips for public use as no company would. make provision for this. Also, despite regular corresponding, it was not possible to have a rubbish bin at Bryn Rhyd yr Arian or at the lay-by, near Taldrach, Groes. The CTCV system at the Post Office was upgraded. The Summer Play Scheme, organized by the Rural Sports Development Officer, was held, and an excellent number of children attended, twice a week during the summer holidays. In addition, Christmas Trees were provided for the school and the village, and Christmas-themed decorations were placed on lamp posts throughout the village. The Pensioners' Christmas Dinner was provided as per usual, on Friday evening, December 1st, with nearly 100 residents there enjoying it. Two meetings were held for the public regarding Planning. The first was in Groes concerning the construction of a building for 32,000 laying hens. The local residents were not happy about this and a large number came to the meeting to discuss and express their dissatisfaction with this plan. The Council will not support this. The second meeting was held at Bro Aled Education Centre, Llansannan to discuss and express opinions on a plan to erect 5 wind turbines on Mynydd Tryfan. Almost 200 people attended this meeting. The Council will oppose this plan when an official application is submitted. As usual, every year, a Remembrance Sunday Service was held in November with many of the village residents turning out to support and participate. It was sad to hear of the death of Councillor Berwyn Evans in September 2025. Berwyn served on the Council for over 20 years and his loss is great. Susan Van-Look was co-opted to the vacant seat in March 2026. At present, the Council is working on a matter of a Community Asset Transfer, namely the Playing Field, Maes Gogor, Llansannan. It appears that Llansannan Community Council will be the owner of the site after 30 years of ownership by Clwyd, Colwyn, and Conwy Councils. The Bro Aled Sports Association will be tenants of the Council and will take care of the site for the future. A new contractor was appointed to carry out work for the Council following the resignation of Mr. Arfon Wynne in 2025. Arfon had carried out maintenance of the parish's public footpaths and other work for over a decade. The contractor appointed in 2026 is Dafydd Cernyw Jones, and you will notice his work around Llansannan and Groes.

ADRODDIAD BLYNYDDOL 2025-2026 ANNUAL REPORT Statistics: 0 click throughs, 7 views since start of 2026

ADRODDIAD BLYNYDDOL 2025-2026 ANNUAL REPORT

.

Cyngor Cymuned Llansannan Community Council Henllan Conwy

Powered by Your Tourism Community

Cyngor Cymuned Llansannan Community Council Statistics: 586 click throughs, 76430 views since start of 2026