Cyngor Cymuned Llansannan Community Council Bro Aled

COFNODION MIS TACHWEDD 2022 NOVEMBER MINUTES

CYNGOR CYMUNED LLANSANNAN, COFNODION CYFARFAOD GYNHALIWYD YNG NGHANOLFAN ADDYSG BRO ALED LLANSANNAN. NOS FERCHER 9fed O DACHWEDD 2022 AM 7-30yh
Presennol: Cynghorwyr: Meurig Davies (Cadeirydd) Delyth Williams, Trefor Roberts, Elwyn Jones, Tammi Owen.
Aelodau o’r Cyhoedd: ,Eifion M Jones, Emrys Williams, (Clerc)
Hysbysiad o Gyfethol: Enwebwyd Eifion Morris Jones trwy’r broses gyfethol i lenwi’r sedd wag yn Ward Llansannan. Cynnigwyd Eifion M Jones gan y Cynghorydd Tammi Owen ac eilwyd y cynnig yn briodol gan y Cynghorydd Delyth Williams.
1.Ymddiheuriadau: Cynghorydd Philip Wright, Berwyn Evans, Bethan Jones.
2. Datgan cysylltiad: Cod Ymddygiad Llywodraeth Leol. Cynghorwyr: Delyth Williams, Cyllid, 7(3) 10. Ceisiadau am grant, 10.1 T Roberts, D Williams. 10.2 T Owen 14.3 Materion CBS Conwy, M Davies, T Roberts, EM Jones, T Owen.
3. Cadarnhau cofnodion. Cyfarfod Y Cyngor gynhaliwyd 12/10/2022 PENDERFYNWYD: Cymeradwyo a llofnodi fod cofnodion cyfarfod 12/10/2022 yn gofnod cywir. 4. Materion yn codi o’r cofnodion. 4.1 Safle Bws Taldrach, Groes. Derbyniwyd gwybodaeth nad oes angen arhosfa ar hyn o bryd ond Penderfynwyd fod y mater yn cael ei adael yn agored.
4.1 Derbyniwyd gwybodaeth gan Cyng EM Jones am y ‘locksmith’
5. Adroddiad misol y Cynghorydd Sir: Cyflwynodd y Cynghorydd grynhodeb o cyfarfodydd a fynychodd yn ystod y mis diwethaf.
6. Cyfle i’r Cyhoedd annerch Y Cyngor. Ni fynychwyd y Cyfarfod gan unrhyw aelod o’r cyhoedd.
7. Cyllid. Balans Banc, 31/10/2022.
Cyfrif y Dreth ……… £8,130.62
Cyfrif H G Owen…£13,958.00
Cyfanswm, £22,088.62
7(1) Costau Banc (Cyfrif y Dreth hyd at 19/09/22) £10.00
7(2) Costau Banc (Cyfri HG Owen hyd at 19/09/22) £8.00
7(3) SO.T T &B Williams, Rhent Swyddfa Bost……£238.33
7(4) Arfon Wynne, Gwaith yn y Gymuned. 200600 .£840.96
7(5) CBS Conwy CBC. Rhaglen Chwaraeon Haf. (Gorff-Medi 2022) 200595 £800.00
7(6) HMRC. Cyfnod diweddu, 05/10/22 200597 ..…£149.20
7(7) Parish Online, 200596 £54.00
Taliadau a Cymeradwywyd
7(8) Arfon Wynne, Gwaith yn y Gymuned £0.00 7(9) CBS Conwy .Costau Etholiadau Lleol 2022 Llansannan £135.00 Bylchau £135.00 £270.00
PENDERFYNWYD: Cymeradwyo fod y ffigyrau uchod yn gywir, cymeradwywyd talu oll o’r taliadau.
Sieciau heb eu cyflwyno / Unpresented cheques. 200587 £500.00. 200588 £60.00 200598 £1,442.00. 200599 £23.80
Derbyniadau.
9.22/7(27) 31/10/2022 RW Roberts, Ymgymerwyr Angladdol £400.00
Taliadau,01/04/22 – 31/10/22 .19,285.59 Derbyniadau. 01/04/22- 31/10/22…£16,199.52 Swm Priodol o dan Adran 137, 2022/23 - £8.82 (07/01/2020 = 721+318=1039=£9,163.98) (01/12/2021 = Llansannan 694. Bylchau320=1,014 x £8.82 = £8,943.48)
8.Rhybydd o Geisiadau am Ganiatad Cynllunio.
8.1 04/11/22. Cyfeirnod / Reference: 0/50163, Ymgeisydd / Applicant: Mr Williams.Dwyrain/ Easting: 299431 Gogledd/ Northing:366387 Cynllun: Dymchwel bwthyn gwag a chodi annedd newydd araethedig i weithwyr amaethyddol. Proposal: Demolition of derelict Cottage and proposed replacement agricultural workers dwelling. .Safle / Location:Fron Felen Fawr,Waen Tywysog Road, Henllan, Llansannan LL16 5BU Sylwadau / Representations: 25/11/2022
Penderfynwyd: Dim gwrthwynebiad nag unrhyw sylwau. Hefyd, fod y Cyngor Cymuned yn gefnogol i’r Cais uchod.
Gofynodd y Cynghorydd Sirol i’r clerc gofnodi na fu iddo leisio unrhyw farn na sylwadau parthed cais 0/50163
9. Gohebiaeth
9.1 CBS Conwy: Ymateb i ymholiad ynghylch Cae Chwarae Clwt.
9.2 CBS Conwy: Ymateb i gais gan y Cyngor Cymuned ynghylch prisiau “Radar speed signs” (VAS) Derbyniwyd prisiau (£3.000.00 yr un, £800.00am eu gosod ac oddeutu £1,000.00 am eu gysylltiad trydanol)
Penderfynwyd: Ail gysylltu gyda CBS Conwy i egluro fod y polion a’r trydan mewn manau cyfleus eisoes. Hefyd: i holi ynghylch rhai “Solar”
10. Ceisiadau am grant.
10.1 Derbyniwyd cais am gefnogaeth ariannol o £500.00 gan Is-bwyllgor y Cyngor sydd yn trefnu Swper Flynyddol Pensiynwyr Llansannan ar Nos Wener 2ail o Ragfyr. Penderfynwyd; Cefnogi a chyfrannu £500.00
10.2 Derbyniwyd cais gan Eglwys St Sannan am y swm o £500.00 tuag at danwydd. Penderfynwyd; Cefnogi a chyfrannu £500.00
11.Unrhyw fater arall.
11.1 Trafodaeth ar lunio Cytuneb i’r clerk. I’w gynnwys ar agenda cyfarfod 7fed o ‘Ragfyr.
11.2 Adolygu cyflog y clerc. I’w gynnwys ar agenda cyfarfod 7fed o ‘Ragfyr.
11.3 Cadarnhau trefniadau ar gyfer Gwasanaeth Sul Y Caedoediad Tachwedd 13eg.
12. Unrhyw fater ddygwyd i sylw’r clerc.
12.1 Cynghorydd Delyth Williams; Cyflwr y ffyrdd bach gafodd eu defnyddio fel ”Diversions” tra buodd Ffordd Gogor ar gau. Cyfeirw yd at y ffyrdd canlynol: Allt Rhydeidion Fawr i Ffordd Gogor, Penrhwylfa hyd at Ffordd Gwytherin, O Ty Coch hyd at Ffordd Pen Cefn a hefyd Ffordd Gwernllifion,
Nodwyd y sylwadau gan Y Cynghorydd Sirol ac addawodd gysylltu gyda’r adranau perthnasol yn CBS Conwy.
12.2 Cynghorydd Elwyn Jones; Cafwyd adroddiad am gau y briffordd A543 rhwng Bylchau a Groes gan y Bwrdd Dwr o Ddydd Llun y 7fed o Dachwedd hyd at Ddydd Mercher yr 9fed. Ni fu dim hysbysiad ymlaen llaw fod y ffordd i fod ar gau ac achoswyd gryn anrhefn i drafnidiaeth o’r herwydd. Penderfynwyd; Fod y clerc yn gohebu gyda CBS Conwy ynghylch y digwyddiad.
13. Materion yr Archwilydd Mewnol ac Allanol.
14 Materion CBS Conwy. .
14.1 Sedd wag Ward Bylchau. Hysbysodd y clerc ei fod wedi cysylltu gyda 2 berson hyd at ddyddiad y cyfarfod ond wedi bod yn annlwyddianus i gael ymateb ffafriol gan yr un ohonynt parthe llenwi’r sedd wag.
14.2 Dyddiadau Scips Cymunedol : Groes, 07/02/2023. Clwt 08/02/2023.
Llansannan, 09/02/2023. Bryn Rhyd yr Arian 14/02/2023.
14.3 21 ain o Hydref 2022 Annwyl Haf, Parthed: Meysydd chwarae plwyf Llansannan a maes parcio Cae Bach
Cafwyd cyfarfod ym Modlondeb ar y 6ed o Dachwedd 2019 gyda Swyddogion o’r Cyngor Sir ac aelodau o Gyngor Cymuned Llansannan er trafod yr uchod. Pwrpas y drafodaeth oedd darganfod os oedd y Cyngor Cymuned yn fodlon bod yn berchen, a rheoli, y meysydd chwarae ar maes parcio yn ei hardal.
Yn ychwanegol, cafwyd cyflwyniad byr ar waith lliniaru llifogydd yn y pentref, a oedd i’w wneud yn y dyfodol os byddai’r arian ar gael i wneud hyn.
Felly, pwrpas y llythyr yma yw darganfod os oes posib symud ymlaen a hyn a cael y caeau chwarae dan berchnogaeth y Cyngor Cymuned. Mae y rhain yn Llansannan, Clwt ar Groes.
Yn ychwanegol, oes posib trosglwyddo Cae Chwarae Maes Gogor Llansannan (yn cynnwys adeilad y pafiliwn) i berchnogaeth Cyngor Cymuned Llansannan?
Penderfynwyd: Anfon y llythyr uchod ymlaen i Haf Jones, Uwch Swyddog Datblygu ac Ymgysylltu â Chymunedau Ecomoni a Diwylliant , Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy. Penderfynwyd hefyd diddymu’r cymal sydd yn cyfeirio at y Gwaith lliniaru llifogydd yn y pentref.
15. Materion Llywodraeth Cymru a San Steffan.
16, Cadarnhau dyddiad Cyfarfod nesaf Y Cyngor Cymuned: Yn Neuadd Goffa Plwyf Y Bylchau Groes, 07/12/2022


LLANSANNAN COMMUNITY COUNCIL. MINUTES OF MEETING HELD AT CANOLFAN ADDYSG BRO ALED LLANSANNAN ON WEDNESDAY 9th NOVEMBER 2022 AT 7.30pm.
Present: Cllrs: Meurig Davies (Chairman) Delyth Williams, Trefor Roberts, Elwyn Jones, Tammi Owen.
Members of the Public: Eifion M Jones, Emrys Williams, (Clerk)
Notice of Co-option: Eifion Morris Jones was duly proposed by Cllr Tammi Owen and seconded by Cllr Delyth Williams for the vacant seat in Llansannan Ward.
1.Apologies Councillors Philip Wright, Berwyn Evans, Bethan Jones.
2. Declarations of Interest Code of Local Government Conduct: Cllrs: Delyth Williams, Finance, 7(3) 10. Grants, 10.1 T Roberts, D Williams. 10.2 T Owen 14.3 CBC Conwy matters M Davies, T Roberts, EM Jones, T Owen.
3. Confirm minutes of 12/10/2022 Council meeting. RESOLVED: Minutes on the 12/10/2022 meeting be approved and signed as a correct record.
4. Matters arising from the minutes. 4.1Taldrach Groes Bus Shelter: Information was relayed that there is no immediate need for a shelter at the site. Resolved: That the matter is to be left open.
4.1 Information relayed to the committee by Cllr EM Jones regarding the locksmith
5. County Councillor’s monthly report: County Cllr presented a synopsis of events he has attended during the past month.
6. Public’s opportunity to present statements. No members of the public were present at the meeting.
7. Finance. Statements of Bank Accounts: 30/10/2022
Community Council Accounts…£8,130.62
H G Owen Accounts…£13,958.00
Total £22,088.62
Payments 7(1) Bank Charges (Community Council Accounts) to 19/09/22 £10.00
7(2) Bank Charges (HG Owen Account) to 19/09/22 £8.00
7(3) SO. TT Williams Post offfice Rent …£238.33
7(4) Arfon Wynne, Work in the community. 200600
£840.96
7(5) Conwy CBC. Summer Sports Programme (July-Sept 2022) 200595 ………… £800.00
7(6) HMRC. Period ending 05/10/22 200597 ..…£149.20
7(7) Parish Online, 200596 …£54.00
Payments to be approved.
7(8) Arfon Wynne, Gwaith yn y Gymuned / Work in the community 7(9) Conwy CBCl2022 Local Election Costs. Llansannan £135.00 Bylchau £135.00…. £270.00 Unpresented cheques. 200598 £1,442.00 200599 £23.80
RESOLVED: That all payments are correct and that all payments be paid.
Payments,01/04/22 – 30/10/22….£
Receipts, 01/04/22- 30/10/22…..
Unpresented cheques: 200587 £500.00. 200588 £60.00 200598 £1,442.00. 200599 £23.80
Receipts:
9.22/7(27) 31/10/2022 R W Roberts, Funeral Directors £400.00
Payments,01/04/22 – 31/10/22…£19,285.59 Receipts, 01/04/22- 31/10/22….£16,199.52
Appropriate Sum under S137, 2022/23 - £8.82 per elector. (07/01/2020 = 721+318=1039=£9,163.98) (01/12/2021 = Llansannan 694. Bylchau 320=1,014 x £8.82 = £8,943.48)
8.Notice of application for Planning Permission. 8.1 04/11/22. Cyfeirnod/Reference: 0/50163,Ymgeisydd/Applicant: Mr Williams.Dwyrain/ Easting: 299431 Gogledd/ Northing:366387 Cynllun: Dymchwel bwthyn gwag a chodi annedd newydd araethedig i weithwyr amaethyddol. Proposal: Demolition of derelict Cottage and proposed replacement agricultural workers dwelling. .Safle / Location:Fron Felen Fawr,Waen Tywysog Road, Henllan, Llansannan LL16 5BU Sylwadau / Representations: 25/11/2022
9. Correspondence 9.1 CBC Conwy: Response re – Clwt Children’s Playing Field. 9.2 CBC Conwy: Response to request from Community Council for information about “Radar speed signs” (VAS) Prices quoted ( £3.000.00 each, £800.00 for installation and £1,000.00 for electricity connection. RESOLVED: Correspond with Conwy CBC stating that stanchions and power supply is already in situ. Also to enquire re-solar devices. 10. Grant Applications. 10.1 Request for financial aid received from the Community Council’s sub-committee who organize the Llansannan Pensioners Annual Supper to be held on the 2nd of December. RESOLVED: To support and donate £500.00.
10.2 Request for financial aid of £500.00 towards heating oil received from St Sannan Church. RESOLVED: To support and donate £500.00.
11 Any other matter.
11.1 Discussion on drawing out a contract for the clerk. Resolved: Include in 7th December meeting’s agenda.
11.2 Review clerk’s salary. Resolved: Include in 7th December meeting’s agenda.
11.3 Confirmed arrangements for Remembrance Sunday Service
12. Any issues presented to the clerk.
12.1 Cllr Delyth Williams: Condition of minor roads in the community that were used as Diversions during the period Ffordd Gogor was closed due to Flood Alleviation Scheme. Following roads were noted: Rhydeidion Fawr Hill leading to Ffordd Gogor, Penrhwylfa to Ffordd Gwytherin, From Ty Coch through to Pen Cefn and also Ffordd Gwernllifion,
County Cllr noted the comments and will contact relevant departments at Conwy CBC.
12.2 Cllr Elwyn Jones presented a report on the closure of the A543 between Bylchau and Groes from Monday 7th November until Wednesday the 9th for work by Wesh Water. There was no previous notice of the work and much disruption to traffic was caused. RESOLVED: The clerk to correspond with Conwy CBC regarding the issue.
13. Internal and External Audit Matters. 14 Conwy CBC Matters.
14.1 Vacant seat in Bylchau Ward. Clerk stated he had contacted 2 persons and as yet had been unsuccessful in filling the post. 14.2 Confirmation of Community Skips dates: Groes, 07/02/2023. Clwt 08/02/2023.
Llansannan, 09/02/2023. Bryn Rhyd yr Arian 14/02/2023.
15. Welsh Goverment and UK Parliament matters. 16. Confirm date of next Council: 09/11/2022








.

COFNODION MIS TACHWEDD 2022 NOVEMBER MINUTES Statistics: 0 click throughs, 184 views since start of 2024

COFNODION MIS TACHWEDD 2022 NOVEMBER MINUTES

Cyngor Cymuned Llansannan Community Council Henllan Conwy

Powered by Your Tourism Community

Cyngor Cymuned Llansannan Community Council Statistics: 69 click throughs, 44488 views since start of 2024