Cyngor Cymuned Llansannan Community Council Bro Aled

COFNODION MIS GORFFENNAF 2026 JULY MINUTES

CYNGOR CYMDEITHAS LLANSANNAN COMMUNITY COUNCIL
COFNODION CYFARFOD Y CYNGOR NOS FERCHER 8 Gorffennaf, 2026 AM 7.30yh YNG NGHANOLFAN ADDYSG BRO ALED, LLANSANNAN.
MINUTES OF THE COMMUNITY COUNCIL MEETING WEDNESDAY 8 July, 2026 AT 7.30pm AT
CANOLFAN ADDYSG BRO ALED LLANSANNAN.
Yn bresennol/Present: Tammi Owen (cadirydd/chair), Eifion Jones (is-caidrydd/vice chair), Meurig Davies, Trefor Roberts, Delyth Williams, Bethan Evans, Bethan Jones, Elwyn Jones, Ffion Clwyd Edwards.
Cyhoedd/Public Steve

1. Ymddiheuriadau David Morris, Trystan Lewis, Sue Van Loock. 1. Apologies David Morris, Trystan Lewis, Sue Van Loock.
2. Datgan cysylltiad: Cod Ymddygiad: Llywodraeth Leol
Delyth Williams 8.5a Eifion Jones 9.2 & 10.1
Tammi Owen 9.2 Trevor Roberts 9.2
2. Declarations of Interest Code of Local Government Conduct.
Delyth Williams 8.5a Eifion Jones 9.2 & 10.1
Tammi Owen 9.2 Trevor Roberts 9.2
3. Cadarnhau cofnodion Pwyllgor 10 o Mehefin 2026
Cynigiwyd fel cywir gan Meurig, eiliwyd gan Eifion, a chytunwyd yn unfrydol ei fod yn gywir
3. Confirm minutes of 10 of June 2026 Council meeting.
Proposed correct by Meurig, seconded by Eifion. Unanimoulsy agreed as correct.
4. Action tracker – diweddarwyd
4. Action tracker – Updated
5. Adroddiad misol y Cynghorydd Sirol
Dros y mis diwethaf, rwyf wedi bod ynglyn â sawl peth, mynd i’r afael a maes parcio Cae Bach, mae enforcement yn rhoi 7 diwrnod i’r preswylydd glirio’r llanast, cyn eu bod ynglyn gwneud y gwaith a gyrru’r anfoneb iddo fo.
Rwyf wedi ebostio Rachel Jones, twrnai y Sir ynglyn â phafiliwn Llansannan, mae hi ar ei gwyliau hyd at y 13eg, ond fe fues i’n siarad hefo’r adran gyfeithiol heddiw, ac mae’r ddogfen yn barod gennyn nhw, angen ei arwyddo pan ddaw Rachel yn ol.
Ges i gyfarfod gydag Owen Conry wythnos diwethaf ynglyn â’r llain tir wrth Maes Aled. Mae gen Owen gyswllt da gyda’r person yn Ystadau Cartrefi Conwy gyda golwg i’r cyngor cymuned gymryd y tir
Disgwyl ymateb Joseph Davies ynglyn â’r llinellau melyn wrth y capel ac wrth y Llew Coch, disgwyl ymgynghoriad ynglyn â llinellau’r Llew Coch.
Wedi cyfarfod Mike Priestley ynglyn â’r ffordd i Heskin, gan nad ydwi’n mynd i nunlle hefo Geraint Edwards, pennaeth ERF, Mike wedi awgrymu mynd i’r adran gyfreithiol i wirio os ydi’r ffordd yn un adopted a’i peidio…
Caniatad cynllunio wedi ei basio pnawn ‘ma i Bont Pengwern, wedyn disgwyl i’r gwaith yno fynd yn ei flaen. Gwaith yn digwydd rwan ar Bont y Gwyddel, sydd yn ffin y ward hefo ffin ward Betws/Llanfair
Disgwyl cael caniatad i bont y Bryn ddechrau (er nad ydwi’n gweld hynny yn digwydd cyn cwblhau pont Pengwern.
Wedi bod yn gohebu ynglyn â thyrbinau mynydd Tryfan, er yn ofalus i beidio cynnig sylwadau rhag ofn iddo ddod gerbron yr awdurdod lleol.
Disgwyl ymateb ERF i batcho Cefn Groes Bach.
Wedi bod yn gohebu ynglyn â deilydd yn Groes sydd wedi gofyn am garafan statig i’r teulu ar y tir, cafodd byngalo ei wrthod oherwydd annghydfod rhwng yr Adran Gynllunio a hwythau oherwydd partneriaeth y ffarm a dogfen gyfreithiol, wedi ceisio helpu o ran apêl.
Wedi bod ynglyn â thrwsio’r ffordd wrth Beniar lawr am y Bryn.
Wedi mynychu 2 gyfarfod gyda rhieni ysgol Bro Aled a chyfarfod llywodraethwyr. Yr ail gyfarfod gyda deilydd portffolio Addysg, Aaron Wynne a Mike Priestley ERF. Dywedodd Aaron Wynne nad yw am newid y polisi, er galwadau taer, canlyniad y cyfarfod oedd tri pheth-bod diffyg cyfathrebu dybryd rhwng y sir yn cyflwyno gwybodaeth i rieni. Yn ail, mae Mike Priestley am edrych ar y ddarpariaeth bws i Ddyffryn Conwy gan mai tacsi sydd ar hyn o bryd i Lanfair Talhaearn, ac edrych ar y teithiau/routes eto. Yn drydydd dwi am edrych i weld os wnaiff Glan Clwyd neu Sir Ddinbych gyfrannu at fws i Lan Clwyd. Bûm mewn pwyllgorau cyllid ac adnoddau, Gwasanaethau democrataidd ac Addysg ac ymweliadau safle a chynllunio…ac ymweld a dau deulu yn Groes a Chefn Berain ynglyn â choditŷ cheisio am gais cynllunio.
5. County Councillor’s monthly report.
Over the past month, I’ve been involved with several matters, tackling the situation at the Cae Bach car park. Enforcement has given the resident 7 days to clear the mess before they step in to do the work themselves and send him the invoice.
I’ve emailed Rachel Jones, the County’s solicitor, regarding the Llansannan pavilion. She is on leave until the 13th, but I spoke with the legal department today and the document is ready on their side; it just needs Rachel’s signature when she returns.
I had a meeting with Owen Conry last week about the strip of land by Maes Aled. Owen has good contact with the person in Cartrefi Conwy Estates with a view to the community council taking over the land.
Awaiting a response from Joseph Davies regarding the yellow lines by the chapel and by the Red Lion, and awaiting consultation regarding the Red Lion lines.
I met with Mike Priestley about the road to Heskin, as I’m getting nowhere with Geraint Edwards, head of ERF. Mike has suggested going to the legal department to check whether the road is adopted or not.
Planning permission was granted this afternoon for Pont Pengwern, so we now await the work there to proceed. Work is currently happening on Pont y Gwyddel, which lies on the boundary of the ward with the Betws/Llanfair ward boundary.
Awaiting permission for the Bryn bridge to begin (although I don’t see that happening before Pont Pengwern is completed).
I’ve been corresponding regarding the Tryfan mountain turbines, being careful not to offer any comments in case the matter comes before the local authority.
Awaiting a response from ERF regarding patching at Cefn Groes Bach.
I’ve been corresponding regarding a resident in Groes who has asked for a static caravan for the family on their land. Their bungalow application was refused due to a dispute between the Planning Department and the applicants over the farm partnership and a legal document. I’ve tried to assist with the appeal.
I’ve been involved with repairing the road at Beniar down towards the Bryn.
I’ve attended two meetings with parents of Ysgol Bro Aled and a governors’ meeting. The second meeting included the Education portfolio holder, Aaron Wynne, and Mike Priestley from ERF. Aaron Wynne said he is not willing to change the policy, despite urgent calls. The outcome of the meeting was threefold: firstly, there is a serious lack of communication from the county when providing information to parents. Secondly, Mike Priestley will look at the bus provision to Dyffryn Conwy, as it is currently a taxi to Llanfair Talhaearn, and will review the routes again. Thirdly, I will look into whether Glan Clwyd or Denbighshire County Council will contribute towards a bus to Glan Clwyd. I’ve been in finance and resources committees, Democratic Services and Education, site visits and planning… and visited two families in Groes and Cefn Berain regarding pre application advice for planning.
6. Gohebiaeth Llythyr o Alerion UK
Trafodwyd o dan eitem 7 6.
Correspondence Letter from Alerion UK
Discussed under item 7
Gohirio Rheolau Sefydlog / Suspend Standing Orders.
7. Dr Steve Newton
Derbyniodd y Cyngor lythyr gan Alerion UK (Tîm Prosiect ar gyfer fferm wynt Mynydd Tryfan) yn gofyn am gyfarfod gyda Chadeirydd a Chlerc Cyngor Cymuned Llansannan. Trafodwyd ac y cytunwyd i wahodd Alerion UK i’r cyfarfod cyngor nesaf ym mis Awst fel eitem gaeedig os yw hynny’n ganiataol. Bydd y Cadeirydd yn cysylltu ag Un Llais Cymru am gyngor. Cadarnhawyd y bydd cyfarfodydd cyhoeddus pellach yn cael eu cynnal yn ystod y cam ymgynghori.
Rhoddodd Dr Newton ddiweddariadau gan y Grŵp Gwaith Mynydd Tryfan. Mae taflenni a phosteri wedi’u dosbarthu ac mae deiseb ar gael i’w llofnodi. Mae bwletin ar-lein newydd ar gael, ac mae cyfarfodydd bob pythefnos yn parhau.
7. Dr Steve Newton
Council received a letter from company Alerion UK (Project team for Mynydd Tryfan windfarm) requesting a meeting with chair and clerk for Llansannan community council. Discussed and decided to invite Alerion UK to the next council meeting in August as a closed item if allowable. Chair will contact One Voice Wales for guidance. It was confirmed that further public meetings would be held under consultation stage.
Dr Newton gave updates from the Mynydd Tryfan working group. Leaflets and posters distributed and petition is available to sign. There is a new online bulletin and bi-weekly meetings still in place.
Adfer Rheolau Sefydlog / Reinstate Standing Orders.
8. Cyllid 8. Finance
8.1 Cadarnhawyd bod y mandad banc bellach wedi’i ddiweddaru. Mae Trevor a Tammi (Cadeirydd) yn lofnodwyr ar gyfer sieciau.
8.1a Mae cais wedi’i wneud ar gyfer bancio ar-lein – yn aros am y manylion
8.1 Confirmed that bank mandate is now updated. Trevor and Tammi (Chair) are signatories for cheques
8.1a. Have applied for online banking – awaiting details.
8.2 Balans Banc cyfnod diweddu 01/07/2026 i Cyfrif y Dreth cyfanswm £6946.91
Cyfrif H G Owen £7195.06
8.2 Bank balance period ending 01/07/2026 for Community Council Account £6946.91
H G Owen Acc balance £7195.06
8.3 Cymeradwyo ag arwyddo balansiau banc cyfnod yn diweddu 01/07/2026
Methu llofnodi gan fod y manylion banc newydd wedi trosglwyddo i’r cyfeiriad swyddfa newydd yn ddiweddar
8.3 To approve bank sign bank balance sheets for period ending 01/07/2026
Unable to sign as bank details have only just transferred over to new office address.
8.4 Taliadau
8.4a HSBC Costau Banc 19/6/2026 £5.00 (Nid oedd ar gael cyn y cyfarfod).
8.4b RhS, T T & B Williams, Rhent Swyddfa Post Anhysbys gan nad yw’r datganiad banc wedi dod i law oherwydd newid manylion.
8.4c HSBC Costau Banc Cyfrif HG Owen Account Anhysbys gan nad yw’r datganiad banc wedi dod i law oherwydd newid manylion.
8.4d Trydan ar gyfer y Swyddfa’r Post £53.93 Debyd uniongyrchol
8.4 Payments
8.4a HSBC bank costs to 19/6/2026 £5.00 (Not available prior to meeting).
8.4b SO Llansannan Post Office rent unknown as bank statement not received due to change of details.
8.4c Bank charges HG Owen Account unknown as bank statement not received due to change of details.
8.4d Electric for Post Office £53.93 Direct Debit
8.5 Derbyniadau
8.5a Anhysbys gan nad yw’r datganiad banc wedi dod i law oherwydd newid manylion
8.5 Receipts
8.5a unknown as bank statement not received due to change of details.
8.6 Taliadau i’w chymeradwyo
8.6a - Dafydd Cernyw – £1220.61 am waith a gyflawnwyd yn y gymuned. Cytunodd yr aelodau yn unfrydol i fwrw ymlaen â’r taliad
8.6b Enw domain gov.wales and .llyw.cymru £220 +TAW Pob 2 flynedd. Cytunodd yr aelodau yn unfrydol i fwrw ymlaen.
8.6 Payments to be approved
8.6a Dafydd Cernyw £1220.61 for work undertaken in community. Members unanimously agreed to proceed with the payment.
8.6b Domain name gov.wales and .llyw.cymru £220 +VAT Every 2 years. Members unanimously agreed to proceed.
8.7 Derbyn a chymeradwyo’r cysoniad banc ar gyfer y cyfnod yn diweddu 30/6/2026
Cytunodd y Cyngor i ohirio’r eitem hon hyd nes y penodir y Clerc newydd, gan y bydd cymod y balans banc yn cael ei wneud gan y Clerc sy’n dod i’r swydd
8.7 To receive and approve the bank reconciliation for the period ending 30/6/2026.
The Council agreed to suspend this item until the new Clerk is appointed, as the reconciliation of the bank balance will be undertaken by the incoming Clerk
8.8 Adran 137 – rhaid i gynghorau nodi’r terfyn gwario cyfreithiol. 2026/27 £11.60 8.8 Section 137 – councils must note the legal spending limit. 2026/27 £11.60
8.9 Is-pwyllgor i Cyllid
8.9 Cytunodd Tammi (Cadeirydd) a Meurig i wasanaethu ar yr Is Bwyllgor Cyllid. Trafodwyd y bydd angen o leiaf un aelod ychwanegol, ynghyd â’r Clerc/RFO newydd. Bydd y pwyllgor yn ystyried hyn ac yn cadarnhau aelodaeth yr Is Bwyllgor Cyllid yn y cyfarfod nesaf.
Eglurodd y Cadeirydd yr arfer da o sefydlu Is bwyllgor Cyllid, gan alluogi grŵp llai i weithio drwy’r Pecyn Llywodraethu ac i fod mewn sefyllfa gryfach i baratoi’r precept ar gyfer y flwyddyn ariannol nesaf. Cytunwyd y byddai’r aelodau’n ystyried y cynnig ac yn dod yn barod i sefydlu Is bwyllgor yn y cyfarfod nesaf.
8.9 Sub Committee for Finance
8.9a Tammi (Chair) and Meurig agreed to serve on the Finance Sub Committee. It was discussed that at least one additional member will be required, along with the new Clerk/RFO. The committee will consider this and confirm the membership of the Finance Sub Committee at the next meeting.
The Chair outlined the good practice of establishing a Finance Sub Committee, enabling a smaller group to work through the Governance Toolkit and to be in a stronger position to prepare the precept for the next financial year. It was agreed that members would reflect on this proposal and come prepared to establish a Sub Committee at the next meeting
9. Rhybudd o Geisiadau an Ganiatad Cynllunio
9.1 Rhif 0/53350 – Pont Pengwern, Llansannan, Conwy
Diweddariad: trafodwyd hyn yng nghyfarfod cynllunio lefel y sir heddiw ac fe’i pasiwyd.
9.2 – 0/53495 paneli solar Toiledau sgwar o dan Mentor Bro Aled. Cynigiwyd gan Delyth ac eiliwyd gan Ffion. Cytunwyd yn unfrydol. Cadeirydd i ysgrifennu lythyr i gefnogi.
9. Notice of application for Planning Permission.
9.1 Code Ref 0/53350 - Pont Pengwern, Llansannan – update this was discussed at county level planning meeting today and passed.
9.2 – 0/53495 solar panels on toilets under Mentor Bro Aled. Proposed by Delyth to agree and seconded by Ffion. Unanimously agreed. Chair to write supporting letter.
10. Ceisiadau am grant.
10.1 Cylch Meithrin £550 Gosod ‘bleinds’ ar ffenestri Ystafell Hiraethog. Derbyniwyd a thrafodwyd y cyfrifon a’r dyfynbrisiau. Cynigiodd Trevor ein bod yn cytuno i’r cais am grant ac yn talu o Gronfa Glyn Owen. Eiliwyd hyn gan Meurig. Cytunwyd yn unfrydol.
10. Application for grants.
10.1 Cylch Meithrin £550 Blinds i Ystafell Hiraethog.
Accounts and quotes received and discussed. Trevor proposed that we agree to the grant request and pay from the Glyn Owen Fund. This was seconded by Meurig. Unanimously agreed.
11. Eitemau a ddygwyd i sylw'r Clerc. Dim. Issues presented to the clerk. None received
12. Materion yr Archwilydd Mewnol ac Allanol
Anfonwyd yr Archwiliad ac mae cadarnhad o’i dderbyn wedi dod i law ar 1/7/2026
Diolchodd y Gadeirydd i Eifion a Delyth am eu cyfraniad at gwblhau’r papurau archwilio, gan alluogi’r archwiliad i gael ei gyflwyno mewn pryd 12. Internal and External Audit.
Audit sent and receipt received 1/7/2026.
Chair thanked Eifion and Delyth for their contribution to completing the audit paperwork, enabling the audit to be submitted on time.
13 – Hyfforddiant
Cytunwyd y bydd y Cadeirydd yn cysylltu â Kath Brown o One Voice Wales i ofyn am ddyddiadau sydd ar gael ym mis Medi ac i holi pa gwrs y byddai’n ei argymell yn gyntaf. Bydd hyn yn cynnwys 10 o gynghorwyr Llansannan.
Bydd y Cadeirydd yn cysylltu â chyngor Llangernyw i weld a fyddent â diddordeb mewn ymuno.
13. Training
Agreed that Chair will contact Kath Brown form One Voice Wales to ask for available dates in September and which course she recommends first. It will include 10 councillors for Llansannan.
Chair to contact Llangernyw council to see if they would be interested in joining.
14. Diweddariad clerk/Swyddog Cyfriannol Cyrifol
Rhoes y Cadeirydd ddiweddariad ar y rÔl Clerc/Swddog Cyllid (RFO). Dyddiad cau: 31 Gorffennaf 2026. Ar Ôl cau, bydd y Cadeirydd a’r Is-gadeirydd yn agor yr holl geisiadau a dderbyniwyd ac yn trefnu cyfweliad/sgwrs anffurfiol. Y bwriad yw cael clerc newydd yn ei swydd erbyn 1 Medi 2026.
14.2 Dyfynbris gan Catalyst
Rhoddodd Eifion y dyfynbrisiau a gafodd ar gyfer gliniadur. Roedd y gliniadur gyda’r manylebau angenrheidiol yn £590.00
Trafodwyd a fyddai Cyngor Sir Conwy yn gallu darparu gliniadur. Bydd y Cadeirydd yn cysylltu â Trystan Lewis i weld a yw hyn yn opsiwn. Os nad yw, cytunwyd yn unfrydol i fynd ymlaen gyda’r gliniadur gan Catalyst.
Rhoddodd Eifion y dyfynbrisiau ar gyfer argraffwyr: 1. £455.00 2. £414.00. Trafodwyd faint o argraffu sy’n cael ei wneud gan Gyngor Llansannan, ac cytunwyd bod angen argraffydd.
Bydd Eifion yn cysylltu i gael dyfynbrisiau ar inc newydd ar gyfer y ddau opsiwn argraffydd ac i’w drafod yn y cyfarfod nesaf.
Bydd Eifion hefyd yn cael dyfynbrisiau ar gyfer cael cysylltiad rhyngrwyd yn adeilad y Swyddfa’r Post gan mai dyma fydd swyddfa’r clerc.
14. Clerk/RFO/Proper Offcer
Chair gave update on Clerk/RFO. Closing date 31 July 2026. Once closed Chair and vice chair will open applications received and arrange interview/informal chat. The plan is to have a new clerk inplace for 1 September 2026.
14.2 Catalyst quote
Eifion gave the quotes he has received for a laptop.
A Laptop with Specifiations needed was £590.00
It was discussed whether Conwy county council would be able to provide a laptop. Chair to contactTrystan Lewis to see if this is an option. If not it was unanimously agreed to go ahead with the laptop from Catalyst.
Eifion gave the quotes for printers. 1. £455.00 2. £414.00.
It was discussed how muich printing is carried by Llansannan council and it was agreed that a printer is necessary.
Eifion to contact for quotes on new ink for both printer options and discuss at next meeting.
Eifion also to obtain quotes for getting internet connection ant the Swyddfa post building as this will be the office for the clerk.
15. Wefan Llansannan
Diweddarodd y Cadeirydd y pwyllgor: mae enwau parth yn Gymraeg ac yn Saesneg wedi’u gofyn. Mae gan y Cadeirydd gyfarfod gyda’r cwmni Cloud Sales i drafod y cais a’r rhaglenni cyfrifiadurol ac ati. 15. Llansannan Website
Chair updated committee, domain names in both english and welsh have been requested. Chair has a meeting with the company Cloud Sales to discuss the application and computer programes etc.
16. Materion CBC Conwy Dim wedi’u derbyn.
16. Conwy CBC Issues None received
17. Materion Llywodraeth Cymru Dim wedi’u derbyn 17. Welsh Government Issues. None received.
Materion Ychwanegol a Godwyd (heb fod ar yr agenda)
•Pryderon wedi’u derbyn gan drigolion Bryn Rhyd Yr Arian fod y gwrychoedd sy’n rhedeg ochr yn ochr â Maesteg wedi tyfu’n beryglus o ormod. Bydd y Cadeirydd yn pasio hyn ymlaen at Trystan Lewis i’w godi.
Pryderon wedi’u derbyn gan drigolion Bryn Rhyd Yr Arian ynghylch y ffos sy’n rhedeg ochr yn ochr â’r ffordd tuag at Gapel Horeb. Mae’r ffos yn llenwi â rwbel o’r wal gerrig, ynghyd â dail a changhennau.
Codwyd bod achos o dipio anghyfreithlon gyferbyn â Groes Ddol yn y Groes. Bydd y Cadeirydd yn pasio hyn ymlaen at Trystan Lewis i’w ymchwilio.
Codwyd bod dau dwll mawr yn y ffordd rhwng Pont Taldrach a’r Groes. Bydd y Cadeirydd yn codi hyn gyda Trystan Lewis i’w ymchwilio.
Holwyd a allai’r bws Hyblyg sy’n dod o Lanrwst ddod â’r plant i’r pentref bob diwrnod ysgol. Weithiau mae’n gwneud, ond byddai’n fuddiol iawn pe gallai wneud hyn bob dydd. Bydd y Cadeirydd yn pasio hyn ymlaen at Trystan Lewis i gysylltu â’r adran berthnasol.
Gofynnwyd am ddiweddariad ar y tŷ sydd wedi’i fyrddio ar Llain Hiraethog. Bydd y Cadeirydd yn ysgrifennu at Grŵp Cynefin i ofyn am ddiweddariad.
Additional Matters Raised (not on agenda)
Concerns have been received from residents in Bryn Rhyd Yr Arian that the hedge running alongside property of Maesteg has become dangerously overgrown. Chair to pass on to Trystan Lewis to raise.
Concerns received from residents of Bryn Rhyd Yr Arian regarding the ditch that runs alongside the road up towards Capel Horeb. The ditch it filling up with rubble from the stone wall and leaves and branches.
Raised that there has been an incident of fly tipping opposite Groes Ddol in Groes. Chair to pass to Trystan Lewis to investigate.
Raised that there are two major potholes between Pont Taldrach and Groes. Chair to raise with Trystan Lewis to investigate.
It was asked of the Flexi bus that comes from Llanrwst can bring the children to the village every school day. Sometimes it does but this would be beneficial to all if it could be every day. Chair to pass to Trystan Lewis to contact relevant department.
Update was requested on the boarded-up house on Llain Hiraethog. Chair to write to Grwp Cynefin for update.
18. Cadarnhau dyddiad 9 Medi 2026 a lleoliad Cyfarfod nesaf y Cyngor.
Penderfynwyd y bydd y cyngor yn cynnal cyfarfod ym mis Awst i wahodd Alerion UK Ar Ôl i’r Cadeirydd siarad ag Un Llais Cymru. Cytunwyd ar ddyddiad newydd: 12 Awst 2026 am 7.30 yn y Groes.
18. Confirm date 9 September 2026 and venue of next Council meeting.
It was decided that the council will hold a meeting in August to invite Alerion UK once chair has spoken to One Voice Wales.
New date agreed 12 August 2026 at 7.30 at Groes.

COFNODION HEB EI DERBYN MINUTES NOT APPROVED

COFNODION MIS GORFFENNAF 2026 JULY MINUTES Statistics: 0 click throughs, 3 views since start of 2026

COFNODION MIS GORFFENNAF 2026 JULY MINUTES

Cyngor Cymuned Llansannan Community Council Henllan Conwy

Powered by Your Tourism Community

Cyngor Cymuned Llansannan Community Council Statistics: 667 click throughs, 85633 views since start of 2026