Cyngor Cymuned Llansannan Community Council Bro Aled

COFNODION MIS MAWRTH 2024 MARCH MINUTES

CYNGOR CYMUNED LLANSANNAN, COMMUNITY COUNCIL COFNODION CYFARFOD GYNHALIWYD YN NEUADD GOFFA PLWYF Y BYLCHAU, GROES. AR Y NOS FERCHER 13eg o FIS MAWRTH, 2024 AM 7-30 yh.

Presennol. Cynghorwyr:Meurig Davies (Cadeirydd) Delyth Williams, Trefor Roberts, David Morris, Berwyn Evans, Tammi Owen, Bethan Jones, Eifion M Jones.
Aelodau o’r Cyhoedd. Bethan Evans, Katie Tynan, Emrys Williams, (Clerc)

1.Ymddiheuriadau. Cynghorwr Elwyn Jones, Cynghorydd Sirol Trystan Lewis.
2. Datgan cysylltiad. Cod Ymddygiad: Llywodraeth Leol. Cynghorydd Delyth Williams. 8. Cyllid,8.4 Cynghorydd Berwyn Evans, 12. Materion ddygwyd i sylw’r clerc, 12.1

3. Cadarnhau cofnodion. Cyfarfod Y Cyngor gynhaliwyd ar y 14eg Chwefror 2024
Penderfynwyd, Cymeradwyo a llofnodi fod cofnodion cyfarfod 14eg Chwefror 2024 yn gofnod cywir.

4. Materion yn codi o’r cofnodion. 4.1 Cyfarwyddwr Strategol (Cyllid ac Adnoddau) CBS Conwy (Gweler 6.1 Gohebiaeth) 4.2 Ffens Fynwent Y Plwyf: Cynnigwyd enwau contractiwr i geisio amcangyfri ganddynt

5. Adroddiad misol y Cynghorydd Sir. Anfonwyd crynhodeb o gyfarfodydd a gweithgareddau a fynychwyd yn ystod y mis diwethaf.

6. Gohebiaeth. 6.1 Cyflwynodd y clerc grynhodeb o ohebiaeth dderbyniwyd gan Gyfarwyddwr Strategol (Cyllid ag Adnoddau) CBS Conwy parthed cwyn a gyflwynwyd gan etholwr o fewn y Ward ynglyn a’r broses o hysbysebu cyfarfodydd cyhoeddus y Cyngor gan y Cyngor Cymuned. Penderfynwyd: I gynnig eglurhad trwy ohebiaeth gyda’r etholwr ar y sefyllfa bresennol ar y broses o hysbysebu cyfarfodydd cyhoeddus y Cyngor Cymuned.
7. Cyfle i’r Cyhoedd annerch Y Cyngor.

8. Cyllid/Finance. Balans Banc cyfnod diweddu 29ain Chwefror,2024. Cyfrif y Dreth, £3,369.72
Cyfrif H G Owen £14,658.00
Cyfanswm £18,027.72 Cadarnhawyd ag arwyddwyd y mantoleni banc oedd yn diweddu ar 29ain Chwefror,2024 gan y Cadeirydd.
Taliadau. 8.1 Cyflog Clerc, 01/10/2023 – 31/12/2023 (£686.92x2 + £687.12x1) 200655. £1,874.16 8.2 DD DU, British Gas, Trydan Swyddfa Post Llansannan .£45.51 8.3 DR, HSBC Costau Banc, Cyfrif y Dreth hyd 19/01/24 £15.00 8.4 SO / RhS,T T & B Williams, Rhent Swyddfa Bost Llansannan £238.33 8.5 Arfon Wynne, Gwaith yn y Gymuned, 200657
£864.29 8.6 Hamilton Security Systems Ltd. Call out to fault on CCTV system. £100.00+£20.00 TAW. 200658
£120.00
Derbyniadau.
8.7 08/02 Rhent Y Gadlas rent, 01/07/23 – 30/09/23 £180.00
8.8 08/02 Scottish Power, Wayleave £7.25
8.9 28/02 R W Roberts, Ymgymerwyr £500.00
8.10 28/02 Rhent Y Gadlas rent, 01/10/23 – 31/012/23 £180.00 (Cyfrif H G Owen account)
Sieciau heb eu cyflwyno: 0.00 .
Taliadau a gymeradwywyd
8.11 Arfon Wynne, 0.00 8.12 E T Williams, Costau clerc, 01/12/23 – 29/02/2024 £98.32
Penderfynwyd, Cymeradwyo fod y ffigyrau uchod yn gywir. Cymeradwywyd talu oll o’r taliadau
8.13 Cysoniad Banc. Taliadau, 01/04/23 – 29/02/24 £30,908.52 Derbyniadau, 01/04/23- 29/02/24 £25,218.98 Terfyn gwariant adran 137 ar gyfer 2024-25 ydi £10.81

9.Rhybydd o Geisiadau am Ganiatad Cynllunio.
9.1 Cyfeirnod: 0/51476 Ymgeisydd: Mr David Jones Dwyrain: 299773 Gogledd: 363957 Cynllun: Cynnig i droi ty allan presennol yn llety gwyliau i gynnwys defnyddio rhan o'r garej gerrig bresennol fel llofft ystlumod Safle: Ty Mawr Groes Llansannan LL16 5RY Sylwadau 12/03/2024 Ni leisiwyd gwrthwynebiad. Ebost - Cyngor Cymdeithas Llansannan yn hollol gefnogol i gais Cyfeirnod: 0/51476 14/03/24
9.2 Cyfeirnod: 0/51497 Ymgeisydd: Mr B Evans Dwyrain: 297931 Gogledd: 362609 Cynllun: Storfa bwyd a gwair newydd arfaethedig Safle: Hafod Dafydd Taldrach To Nant Y Lladron Bylchau Llansannan LL16 5SN Sylwadau 20/03/2024 Dim gwrthwynebiad. Ebost-Cyngor Cymdeithas Llansannan yn hollol gefnogol i gais Cyfeirnod: 0/51497 14/03/24
9.3 Cyfeirnod: 0/51527 Ymgeisydd: Mrs L Johnson Dwyrain: 295253 Gogledd: 359052 Cynllun: Estyniad(au) arfaethedig i'r cefn, dormerau arfaethedig i flaen yr adeilad, ffenestri newydd arfaethedig i flaen yr adeilad, paneli solar i'r to ar yr estyniad ochr ac addasiadau allanol a mewnol cyffredinol. Safle: Former Sportsmans Arms Bryntrillyn To Cottage Bridge Bylchau Llansannan LL16 5SW Sylwadau 02/04/2024 Dim gwrthwynebiad. Ebost-Cyngor Cymdeithas Llansannan yn hollol gefnogol i gais Cyfeirnod: 0/51527 14/03/24
9.4 Cyfeirnod: 0/51528 Ymgeisydd: Mr & Mrs Iwan a Menna Jones Dwyrain: 301185 Gogledd: 365058 Cynllun: Estyniad ac addasiadau arfaethedig Safle: Groes Bach Groes Llansannan LL16 5RS Sylwadau 02/04/2024 Dim gwrthwynebiad. Ebost - Cyngor Cymdeithas Llansannan yn hollol gefnogol i gais Cyfeirnod: 0/51528 14/03/24

10 Gohebiaeth Cyngor Bwrdeistref Conwy.

11 Ceisiadau am Grant. 11.1 Eisteddfod Rhondda Cynon Taf 2024 Penderfynwyd: Gadel y cais yma ar y bwrddd.

12 Unrhyw fater ddygwyd i sylw’r clerc.
12.1 Datblygiad yng nghae Fron Bugad, Llansannan, drws nesa i'r ysgol. Cafwyd trafodaeth ynghylch y datblygiad. Penderfynwyd.Gohebu gyda CBS Conwy i gyfleu’r anfodlonrwydd sydd wedi ei leisio gan y gymdeithas leol i’r datblygiad.
12.2 Ffens Fynwent Y Plwyf: Cynnigwyd enwau contractiwr i geisio amcangyfri ganddynt
12.2 Elusen Hen Blwyf Henllan; Yr angen am aelod o’r Cyngor Cymuned ( Ward Bylchau ) i eistedd ar y pwyllgor.Ni ddangoswyd diddordeb gan neb i ymuno a’r pwyllgor.

13. Materion yr Archwilydd Allanol.

14. Materion CBS Conwy. 14.1 Hysbysfyrddau i Llansannan a Bryn Rhyd Yr Arian.Penderfynwyd: Ceisio am bris i osod yr hysbysfwrdd.
14.2 Cofrestr Etholwyr. Penderfynwyd: I’r clerc gysylltu gyda CBS Conwy parthed sicrhau copiau o’r Gofrestr Etholwyr i’r Cynghorwyr.

15 Materion Llywodraeth DU Cymru.

16. Materion a ystyriwyd.
16.1 Adolygwyd a mabwysiadwyd Y Rheoliadau Sefydlog.
16.2 Adolygwyd a mabwysiadwyd Y Rheoliadau Ariannol.
16.3 Adolygwyd a mabwysiadwyd Y Cod Ymddygiad Enghreifftiol ar gyfer Aelodau ac Aelodau Cyfetholedig a hawliau pleidleisio.
16.4 Adolygwyd a mabwysiadwyd Y Gofrestr Asesiad Risc.
16.5 Adolygwyd Y Gofrestr Asedau
16.6 Arwyddo sieciau’r Cyngor. Cadarnhau y ddau gynghorwr enwyd eisioes a’i gofnodi. Penderfynwyd fod y Cynghorwyr Meurig Davies a Delyth Williams i arwyddo sieciau’r Cyngor.
16.7 Tal Cydnabyddiaeth y Cynghorwyr. Cyfnod 01/04/23 – 31/03/2024
16.8 Cyfethol ar gyfer seddi gwag yn Ward Llansannan a Ward Bylchau.
16.9 Diweddariad ar taliadau Rhent Swyddfa Bost 14/09/2023. Derbyniwyd gan AL Shamas(NW) Llansannan P/O Cyfnod 01/10/2021 i 31/12/2021 Anfoneb 01/01/2022 – 30/06/2022, wedi derbyn £420.00 on 21/11/2023. Derbyniwyd gwybodaeth fod addewid gan A L Shamas o drefniant newydd i dalu’r anfonebau o hyn ymlaen.
Anfoneb diweddaraf, 01/07/2022 – 31/12/2022, £420.00 dyddiwyd 29/02/2024

17 Cadarnhau dyddiad a lleoliad Cyfarfod nesaf Y Cyngor. Canolfan Addysg Bro Aled Llansannan, 7.30yh 10fed, Ebrill, 2024

DRAFFT O GOFNODION I’W ADOLYGU A’U CYMERADWYO YNG NGHYFARFOD 10fed O EBRILL, 2024.

CYNGOR CYMUNED LLANSANNAN COMMUNITY COUNCIL.
MINUTES OF MEETING HELD AT NEUADD GOFFA PLWYF Y BYLCHAU, GROES. ON WEDNESDAY 13th MARCH, 2024 AT 7.30pm.
Present:Cllrs, Meurig Davies (Chair) Delyth Williams, Trefor Roberts, David Morris, Berwyn Evans, Tammi Owen, Bethan Jones, Eifion M Jones. Members of the public, Bethan Evans, Katie Tynan, Emrys Williams, (Clerk)

1. Apologies: Cllr Elwyn Jones, County Cllr Trystan Lewis,

2. Declarations of Interest Code of Local Government Conduct: Cllr Delyth Williams. 8. Finance,8.4 Cllr Berwyn Evans, 12. Issues presented to the clerk, 12.1

3. Confirm minutes of the Council’s 14th February 2024 meeting.
Resolved: Minutes of the meeting held on the 14th February 2024 be approved and signed as a correct record.

4. Matters arising from the minutes. 4.1 Strategic Director (Finance & Resources CBC Conwy.(Refer to 6.1 Correspondence) 4.2 Damaged fence in Parish Cemetery, Contractors were named to procure estimates from.

5. County Councillor’s monthly report. County Cllr T Lewis relayed a comprehensive report of meetings and activities he’d attended during the past month.

6. Correspondence
6.1 The clerk presented a synopsis of the correspondence received from Conwy CBC Strategic Director (Finance & Resources) in relation to the complaint presented by a member of the electorate regarding the procedure of advertising the Community Council’s public meetings.
Suspend Standing Orders
7. Public’s opportunity to present statements.
Reinstate Standing Orders.

8. Finance. Statements of Bank Accounts period ending 29th February, 2024.
Community Council Accounts, £3,369.72.
H G Owen Accounts £14,658.00
Total £18,027.72
Bank statements confirmed correct and signed by Chairman.
Payments.
8.1 Clerk’s salary, 01/10/2023 – 31/12/2023 (£686.92x2 + £687.12x1) 200655 £1,874.16
8.2 DD, British Gas, Llansannan Post Office Electricity £45.51
8.3 DR, HSBC, Bank Charges (Community Council Accounts) up to 19/01/24 £15.00
8.4 SO,T T & B Williams, Post Office Rent £238.33
8.5 Arfon Wynne, Work in the Community 200657
£864.29
8.6 Hamilton Security Systems Ltd. Call out to fault on CCTV system. £100.00+£20.00 VAT. 200658 £120.00
Receipts: 8.7 08/02 Y Gadlas, rent, 01/07/23 – 30/09/23 £180.00 8.8 08/02 Scottish Power, Wayleave £7.25 8.9 28/02 R W Roberts, Funeral Directors £500.00 8.10 28/02 Y Gadlas rent, 01/10/23 – 31/012/23 …£180.00
( H G Owen account) Unpresented cheques: 0.00
Payments confirmed.
8.11 Arfon Wynne, 0.00
8.12 E T Williams, Clerk expenses, 01/12/23 – 29/02/2024 £98.32
RESOLVED: That all payments deemed correct and that all payments be paid.
8.13 Bank reconciliation: Payments,01/04/23 – 29/02/24 £30,908.52 Receipts, 01/04/23- 29/02/24
£25,218.98
Appropriate Sum under Section 137(4)(a) of the Local Government Act 1972 - Section 137 Expenditure Limit for 2024-25 is £10.81
9. Notice of application for Planning Permission
9.1 Reference: 0/51476 Applicant: Mr David Jones Easting: 299773 Northing: 363957 Proposal: Proposed conversion of existing outbuilding into holiday let to include use of part of existing stone garage as bat loft Location: Ty Mawr, Groes, Llansannan, LL16 5RY Representations 12/03/2024 No objections presented. Emailed - Llansannan Community Council fully supportive of application 0/51476 14/03/24
9.2 Reference: 0/51497 Applicant: Mr B Evans Easting: 297931 Northing: 362609 Proposal: Proposed New hay and feed store Location: Hafod Dafydd, Taldrach To Nant Y Lladron, Bylchau, Llansannan, LL16 5SN Representations 20/03/2024 No objections presented. Emailed - Llansannan Community Council fully supportive of application 0/51497 14/03/24
9.3 Reference: 0/51527 Applicant: Mrs L Johnson Easting: 295253 Northing: 359052 Proposal: Proposed rear extension(s), proposed dormers to front elevation, proposed replacement windows to front elevation, solar panels to side extension roof and general external and internal alterations Location: Former Sportsmans Arms, Bryntrillyn To Cottage Bridge, Bylchau, Llansannan, LL16 5SW Representations 02/04/2024 No objections presented. Emailed - Llansannan Community Council fully supportive of application 0/51527 14/03/24
9.4 Reference: 0/51528 Applicant: Mr & Mrs Iwan a Menna Jones Easting: 301185 Northing: 365058 Proposal: Proposed extensions and alterations Location: Groes Bach, Groes, Llansannan, LL16 5RS Representations 02/04/2024 No objections presented. Emailed - Llansannan Community Council fully supportive of application 0/51528 14/03/24

10. Conwy CBC Correspondence,

11 Grant Applications.
11.1 Eisteddfod Rhondda Cynon Taf 2024 Application left on the table.

12. Any issues presented to the clerk.
12.1 Development at Fron Bugad, Llansannan, Following a discussion in was resolved to correspond with Conwy CBC to convey the dissatisfaction voiced by the local community regarding the development.
12.2 Boundary fence at Parish Cemetery. Contractors named to procure estimates for renewing the fence.
12.3 ‘Hen Blwyf Henllan’ Charity: Request received for a councillor from Bylchau Ward to be on the charity committee. No interest was expressed.

13. Internal and External Audit

14. CBS Conwy CBC Matters.
14.1 Notice board at Bryn Rhyd Yr Arian,.Resolved: Clerk to inquire for an estimate to install.
14.2 Register of Electors. Resolved: Clerk to inquire re-acquiring copies of electoral register for the councillors.

15. UK Goverment Wales.

16. Issues reviewed. 16.1 Standing Orders reviewed and adopted.
16.2 Financial Regulations reviewed and adopted.
16.3 Model Code of Conduct for members and Co-opted Members with voting rights reviewed and adopted.
16.4 Risk Assessment Schedule reviewed and adopted.
16.5 Asset Register reviewed and adopted.
16.6 Additional Signatories for Council cheque payments. Resolved: It was confirmed that the two previously named Councillors, Cllr Meurig Davies and Cllr Delyth Williams be included as signatories.
16.7 Councillors Renumeration Payment. Period 01/04/23 – 31/03/2024 All claim forms for payment or opting out of receiving Renumeration payment received by Clerk.
16.8 Co-opt for unfilled seats in Llansannan and Bylchau.
16.9 Update on Post Office rent payments. 14/09/2023. Derbyn / Received,AL Shamas(NW) Llansannan P / O Rent. Period 01/10/2021 i 31/12/2021 Invoice 01/01/2022 – 30/06/2022, received £420.00 on 21/11/2023. Latest Invoice 01/07/2022 – 31/12/2022, £420.00 dated 29/02/2024

17. Confirm date and venue of next Council meeting, Canolfan Addysg Bro Aled Llansannan 7.30pm, 10th April,

DRAFT OF MINUTES TO BE REVIEWED AND RESOLVED AT 10th APRIL 2024 COUNCIL MEETING

COFNODION MIS MAWRTH 2024 MARCH MINUTES Statistics: 0 click throughs, 33 views since start of 2024

COFNODION MIS MAWRTH 2024 MARCH MINUTES

Cyngor Cymuned Llansannan Community Council Henllan Conwy

Powered by Your Tourism Community

Cyngor Cymuned Llansannan Community Council Statistics: 70 click throughs, 45377 views since start of 2024