Cyngor Cymuned Llansannan Community Council Bro Aled

COFNODION MIS GORFFENNAF 2025 JULY MINUTES

CYNGOR CYMDEITHAS LLANSANNAN COMMUNITY COUNCIL >Click to email< Clerc, Emrys Williams, Groesffordd, Henllan, Dinbych LL16 5DA mob.07876266339

COFNODION CYFARFOD O’R CYNGOR A GYNHALIWYD YNG NGHANOLFAN ADDYSG BRO ALED, LLANSANNAN AR NOS FERCHER y 9fed GORFFENNAF 2025 AM 7.30yh.
PRESENNOL: Cynghorwyr Meurug Davies, Tammi Owen, Berwyn Evans, Delyth Williams, Bethan Evans, Trefor Roberts, Ffion Clwyd Edwards ac Eifion Jones
AELODAU O’R CYHOEDD: Trystan Lewis (Cynghorydd Sirol)
1. Ymddiheuriadau: Emrys Williams (Clerc y Cyngor), Cynghorydd Bethan Jones, Elwyn Jones a David Morris (Yn absenoldeb Emrys Williams cytunodd Eifion Jones ar gadw cofnod o’r cyfarfod)
Arwyddo’r Gofrestr. Gwnaed hyn
2. Datgan cysylltiad: Cod Ymddygiad: Llywodraeth Leol. Cynghorydd Delyth Williams, Cyllid 8.7
3. Cadarnhau cofnodion Pwyllgor 11eg Mehefin 2025. Penderfynwyd: Cymeradwyo a llofnodi cofnodion cyfarfod 11eg o Mehefin 2025
4. Materion yn codi o’r cofnodion. Llinnellau melyn o flaen Llain Hiraethog. Mae rhain i’w gosod cyn hir. Trafodwyd rhoi rhai ar ochr Capel Coffa Henry Rees hefyd a bydd Cynghorydd Sirol Trystan Lewis yn ymwneud a hyn.
5. Adroddiad misol y Cynghorydd Sirol. Cyfeiriodd at 1. Ffinger Bach, carafan wedi llosgi ond y safle yn tacluso.
2. Torri glaswellt yn y Groes ac arwyddion yno.
3. Draenau wedi tagu yn yr ardal (ffyrdd Gallt Aled, Plas Ucha). Esgus gan yr Adran Briffyrdd fod y lonau yn rhy gul i dancer sugno. Awgrymir i wneud y gwaith efo llaw. Hefyd cyfeiriodd at nifer o gyfarfodydd y Cyngor a fynychwyd yn ystod y mis.
6. Gohebiaeth CBS Conwy.
6.1 Gwasanaeth Cyfreithiol, (Rhybydd Gwahardd a Chyfygu ar Aros) 2025. Mae yn cynllun ar waith, gweler 4. uchod
6.2 A Ff a Ch. Bin Spwriel Taldrach junction. Nid yw y Cyngor Sir yn gosod biniau sbwriel Newydd. Gan nad un newydd yw hwn, ond ail osod un a oedd wedi diflannu, penderfynwyd ar ohebu a’r adran unwaith eto er pwysleisio hyn.
Gohirio Rheolau Sefydlog.
7. Cyfle i’r Cyhoedd annerch Y Cyngor Rheolau Sefydlog Cyngor Cymuned Llansannan. 21 Mynediad y Cyhoedd i gyfarfodydd. 21.3 Rhoi’r ugain munud ar wahan i gael datganiadau gan y cyhoedd a chaiff pob unigolyn dri munud I roddi eu datgaiad. Dim ond eitemau sydd wedi eu derbyn gan y Clerc yn gynharach (48 o oriau cyn y cyfarfod) a gaiff eu trafod)
Adfer Rheolau Sefydlog.
8. Cyllid. 8.1 Balans Banc cyfnod diweddu 30/06/2025 Cyfrif y Dreth £6855.62. Cyfrif H G Owen £6984.39. Cyfanswm £13,840.01 8.2 Cymeradwyo ag arwyddo balansiau banc cyfnod yn diweddu 30/06/2025. Cadarnhawyd ac arwyddwyd y mantoleni banc yn diweddu ar 30/06/2025 gan y Cadeirydd.
Taliadau 8.3 DD/DU, British Gas, Trydan Swyddfa Post Llansannan £55.63 8.4 Yswiriant, Zurich Municipal Insurance 200704 £1047.04 8.5 DR, HSBC Costau Banc Cyfrif y Dreth hyd 19/05/25 £10.00 8.6 DU, HSBC Costau Banc Cyfrif H G Owen hyd 19/05/2 £8.00 8.7 RhS, T T & B Williams, Rhent Swyddfa Post Llansannan £238.33 8.8 Arfon Wynne, Mynwent x 2 £348.00 Arall £67.00 200706 £415.00 8.9 Hamilton Security Systems, routine service CCTV system 200705 £84.00 8.10 Iona Edwards, Archwiliad mewnol 200707 £60.00
8.11 Cydbabyddiaeth ariannol – gofynion Adran 147 o Fesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2011. 200708 £156.00. 8.12 Clwb pel-droed Llansannan Grant. (Cyfrif H G Owen) 100019 £462.81
8.13 Sieciau heb eu cyflwyno, 200703 £72.00, 200709 £834.00
Derbyniadau. 8.14 CR 03/06/25 AL Shamas (N.W) Llansannan P/O Rhent £70.00
Taliadau i’w cymeradwyo.
8.15 E M Jones. Planhigion £13.00 8.16 Hamilton Security Systems, installed CCTV system as per quotation (£1095.00 + £219.00 VAT)£1,314.00. 8.17 Archwilio Cymru. Ffioedd Archwilio 2023 / 2024 £580.00
8.18 Arfon Wynne, Gwaith llwybrau a torri mynwent £666.20
Cysoniad Banc
Cyfrif Y Dreth 30/06/2025
Taliadau £3,849.45 Derbyniadau £8,097.19
Cyfrif H G Owen 30/06/2025 Taliadau £486.81 Derbyniadau £0.00
Terfyn gwariant adran 137 ar gyfer 2025-26 ydy £11.10
9. Rhybudd o Geisiadau an Ganiatad Cynllunio. Dim
10. Gohebiaeth Cyffredinol
10.1 Charlotte Jones, Ysgrifennyddes Henllan Parochial Charities. Penderfynwyd bod Janet Jenkins yn cymeryd y swydd Ymddiriedolwr ar y Elusen yma.
10.2 Arolwg - Gwaith ymchwil. Cymorth i ddeall teithio llesol yng Nghymru wledig. Awgrymwyd i’r Cynghorwyr wneud yr holiadur ar y we fel unigolion. 10.3 Sioned Hedd, Cais am gerflun newydd ym Mro Aled. Pwrpas hwn yw cydnabod y cyfraniad gan nifer o bobol sy’n gysylltiedig a’r ardal i’r sîn roc yng Nghymru tros y blynydd oedd. Wedi trafodaeth penderfynnwyd ar ofyn i Sioned Hedd geisio gwneud arolwg efo ieuenctid yr ardal er dylunio plac.
11 Ceisiadau am grant. Dim.
12. Materion ddygwyd i sylw’r clerc.
12.1 Cyng Bethan Evans, Cyflwr maes parcio a lloches bws yn Clwt. Mae angen tacluso yma. Bydd Bethan Evans yn cael gair efo perchennog y garafan sy heb symud o’r safle ers dwy flynnedd er ei symud. Bydd y Clerc yn cysylltu efo Arfon Wynne er tacluso o amgylch y lloches bws.
12.2 Cynghorydd Ffion Edwards, Torri glaswellt yn Groes. (Blerwch y gwaith) Mae hyn wedi ei adrodd i’n Cynghorydd Sir er ceisio cael gwell gwasanaeth yn y dyfodol
12.3. Cynghorydd Bethan Jones. 1. Hysbysfwrdd I Bryn Rhyd yr Arian. Pendrfynwyd ar ofyn i Bethan gysylltu a Dei Williams, Pandy a’i gael i wneud y gwaith gyda’r Cyngor yn talu am hyn.
2. Gor yrru trwy’r Bryn. Roedd hyn wedi ei godi o’r blaen ac nid oedd y Cyngor Sir yn barod i wneud dim er gwella’r sefyllfa.
13. Materion yr Archwilydd Mewnol ac Allanol. Unrhyw ddiweddaridau i’w anfon at y Cynghorwyr trwy e-bost.
14 Materion CBS Conwy. 14.1 Cyng E M Jones – Cae Chwarae Bro Aled. Adroddiad ar gyfarfod gyda Huw Richards, Adran Rheoli Asedau a Kylie Wellings, Swyddog Rheoli Eiddo. Cafwyd cyfarfod wythnos diwethaf yn y cae chwarae ac mae’r trosglwyddiad ar y gweill. Bydd cost cyfreithiol i’r Cyngor yn ymwneud a’r trosglwyddiad eiddo. 14.2 J Castle, Peirianydd Seilwaith. Pont Bryn Rhyd yr Arian. Angen cau y ffordd am 2 i 3 diwrnod er mwyn gwneud arolwg manwl. Angen gwybodaeth ynghylch pa ddyddiau i’w osgoi.
15. Materion Llywodraeth Cymru.
16. Ystyried y materion a ganlyn.
16.1 TAW. Iona Edwards. Penderfynwyd i’w defnyddio i wneud cais am ad-daliad.
16.2 Cyflog clerc. Penderfynwyd ar ddefnyddio Iona Edwards i gynnal gwasanaeth cyflog y Clerc yn dilyn marwolaeth Gwyn Davies yn gynharach yn y flwyddyn.
16.3 Digwyddiad difrifol yn Llansannan p’nawn Dydd Mawrth yr 8fed o Gorffennaf. Roedd Heddlu arfog yn y pentref o achos trigolyn sy’n byw yn Llain Hiraethog. Nid dyma’r achos cyntaf o herwydd y trigolyn yma â achosodd i’r ysgol gloi lawr, a phryder mawr ac anhwyster i’r pentrefwyr trwy gau y ffordd am gyfnod. Penderfynwyd anfon llythyr o gwyn i Cynhefin, sef perchnogion Llain Hiraethog, gyda copiai ar yr Aelodau Seneddol, San Steffan a Chaerdydd ac Adran Gwrthgymdeithasol Cyngor Conwy.
16.4 Cyflwr nifer o’r llwybrau cyhoeddus. Daeth i’r amlwg bod nifer fawr o gamfeydd angen ei gosod er dod a’r llwybrau i safon derbyniol a bod y gwaith yma wedi cael ei esgeluso. Gofynwyd am i’r Cynghorwyr gael copi o bob gohebiaeth rhwng y Clerc ac Arfon Wynne yn y dyfodol. Gwaith wedi ei wneud cyn taith Edward Llwyd. Pwy ofynodd am wneud y gwaith yma? Hefyd estynwn wahoddiad i Arfon Wynne ddod i’n cyfarfod Mis Medi i drafod efo ni ein pryderon. Pont dros yr Aled islaw Rhydloew. Mae hon wedi ei symud gan bwysau llif ond mae’n dal yn gyflawn. Cytunwyd ar i’r Cynghorydd Trefor Roberts ofyn i gwmni R.O & E G Morris Cyf ei rhoi yn ol yn ei lle gwreiddiol.
16.5 Cofnodion y Cyngor. Awgrymwyd bod cyfeirnod at bwy sydd yn gyfrifol am weithredu wedi gwneud penderfyniad ar ran y Cyngor. Gellir cael templed o ffurflen Cofnodion yn cynnwys hyn gan Un Llais Cymru.
16.6 Rhent y Swyddfa Post sy’n ddyledus i’r Cyngor. Er bod y Clerc wedi trafod hyn efo’r Postfeistr, maen amlwg nad oes taliad wedi ei wneud er lleihau y ddyled. Cytunodd y Cynghorydd Eifion Jones gael gair efo A L Shamas ac awgrymu ychwanegiad i’r taliad misol o £100.00, am gyfnod nes bod y ddyled wedi ei dalu.
17. Cadarnhau dyddiad lleoliad Cyfarfod nesaf y Cyngor 10fed Medi, 2025

COFNODION I’W DERBYN YNG NGHYFARFOD 10-09-2025

COFNODION MIS GORFFENNAF 2025 JULY MINUTES Statistics: 0 click throughs, 6 views since start of 2025

COFNODION MIS GORFFENNAF 2025 JULY MINUTES

Cyngor Cymuned Llansannan Community Council Henllan Conwy

Powered by Your Tourism Community

Cyngor Cymuned Llansannan Community Council Statistics: 145 click throughs, 103491 views since start of 2025