Cyngor Cymuned Llansannan Community Council Bro Aled

Taith Flynyddol Clwb yr Heulwen 2019 Annual Clwb yr Heulwen Outing

Dyddiad y daith eleni oedd Dydd Iau yr 19eg o Fedi a daeth 32 o aelodau a ffrindiau i fwynhau diwrnod gwych mewn heulwen braf. Defnyddwyd Cwmni M & H Coaches i'n cludo a dechreuwyd y daith am 10.00 o Ganol y Llan. Gyrwyd at yr A5 trwy Mynydd Hiraethog ac ymlaen trwy Betws y Coed, (gyda golygfeydd ardderchog o fynyddoedd Eryri) Llanberris a Chaernarfon gan anelu at Ganolfan Garddio Fron Goch a leolir ger y dref. Wedi cyrraedd y Ganolfan Arddio, roedd yn amser cinio a cafwyd bwyd lleol o ansawdd ardderchog gyda pawb wedi ei bodloni cyn crwydro o amgylch y Ganolfan a cael bargeinion mewn planhigion a deunydd eraill i helpu yn ei gerddi o amgylch pentref Llansannan. Yma aethom ymlaen i Gaernarfon a cael amser i grwydro'r Maes ac ardaloedd eraill o'r dref. Daeth y daith adref trwy Llanrwst, Llangernyw a cyrraedd yn ol yn y pentref am 17.15
This year the annual Clwb yr Heulwen outing was on Thursday the 19th of September a day of beautiful sunshine. 32 members and friends came to enjoy the day on a coach supplied by M & H Coaches. We left at 10.00 and aimed for the A5 driving through Mynydd Hiraethog and on wards through Betws y Coed, (with superb views of the Snowdonia range of mountains) Llanberis, Caernarfon and aiming for the Fron Goch Garden Centre, situated outside the town. Upon arrival, it was lunchtime an everyone had a superb lunch containing locally sourced ingredients, satisfying all before wandering around the Centre and buying plants and other useful garden utensils for use in gardens around Llansannan. Then off to Caernarfon for spending time wandering the Maes and other areas of the town. The homeward journey was via Llanrwst, Llangernyw, arriving back at Llansannan safely at 17.15.

/image/upload/eifion/Hanes_Fron_Goch.JPG

Gwybodaeth am gefndir Canolfan Garddio Fron Goch.
Information on the background of the Fron Goch Garden Centre

/image/upload/eifion/Y_Frongoch.JPG

Yng Nghanolfan Garddio Fron Goch
At the Frton Goch Garden Centre

/image/upload/eifion/Dod_oddi_ar_y_bws.JPG

Cael ein gollwng ar y Maes.
Being dropped off on the Maes

/image/upload/eifion/Bet_a_Mair_yn_yr_haul.JPG

Yn mwynhau seibiant a sgwrs ar fainc yn yr haul
Enjoying a rest and a chat on a bench in the sun

/image/upload/eifion/Yn_y_bws.JPG

Pawb yn ddiogel ar y bws ac am adref.
Everyone safely on the bus and heading for home

Taith Flynyddol Clwb yr Heulwen 2019 Annual Clwb yr Heulwen Outing Statistics: 0 click throughs, 282 views since start of 2024

Nant.JPGTaith Flynyddol Clwb yr Heulwen 2019 Annual Clwb yr Heulwen Outing

Golygfa o'r bws ar y ffordd rhwng Pen y Pas a Llanberis. The view from the bus on the road between Pen y Pass and Llanberis

Cyngor Cymuned Llansannan Community Council Henllan Conwy

Powered by Your Tourism Community

Cyngor Cymuned Llansannan Community Council Statistics: 69 click throughs, 44505 views since start of 2024