Cyngor Cymuned Llansannan Community Council Bro Aled

Cofnodion Mis Mehefin 2018 / June Minutes

CYNGOR CYMUNED LLANSANNAN COMMUNITY COUNCIL
COFNODION PWYLLGOR GYNHALIWYD NOS FERCHER 13eg MEHEFIN 2018 am 7-30yh
NEUADD GOFFA PLWYF Y BYLCHAU, GROES
Presennol: Cynghorwyr: Celfyn Williams (Cadeirydd) Emrys Owen, Delyth Williams, Bethan Jones, Guto Davies, Trefor Roberts, Berwyn Evans, Meurig Davies, Elwyn Jones.
Aelodau o’r Cyhoedd: Cynghorydd Sir Sue Lloyd-Williams,E M Jones, Philip Coombes,The Old Rectory, Llansannan, J Beattie Llanfairtalhearn, Dwysan Williams (Cyfieithydd) Emrys Williams (Clerc)
1.Ymddiheuriadau: Cynghorwyr: Gareth Jones, Glyn O Roberts.
Derbyniwyd llythyr gan Y Cynghordd Gareth Jones yn hysbysu’r Cyngor ei fod wedi penderfynu ymddiswyddo fel aelod o’r Cyngor.Datganodd ei fod wedi mwynhau bod yn gynghorydd a chynrychioli Groes a Bylchau.
Cyflwynodd Y Cadeirydd air o ddiolch i Gareth am ei wasanaeth a gofynodd i’r clerc anfon llythyr o ddiolch a mynegi dymuniadau’r Cyngor iddo yn y dyfodol.
2 Datgan cysylltiad: Cod Ymddygiad Llywodraeth Leol,
Cyng, Delyth Williams , 7. Cyllid, 7.2 TT & B Williams. Rhent Swyddfa Post.
Cyng , Trefor Roberts, 9. Gohebiaeth 9.6,
3. Cadarnhau cofnodion pwyllgor blaenorol Y Cyngor (09/05/18)
PENDERFYNWYD: Cymeradwyo a llofnodi fod cofnodion cyfarfod 09/05/2018 y Cyngor yn gofnod cywir.
4. Materion yn codi o’r cofnodion. Nid oedd unrhyw faterion yn codi ar wahan i rai sydd yn dod o dan eitemau ar yr agenda. .
5. Adroddiad misol y Cynghorydd Sir: Derbyniwyd adroddiad o ddyddiadur llawn y Cynghorydd Sir o’r 11/04/18 hyd at ddyddiad y cyfarfod.Hysbysodd y cyfarfod ei bod wedi ei phenodi yn Gadeirydd Pwyllgor Cynllunio’r Sir, Estynwyd llongyfarchiadau iddi gan y Cadeirydd ar ran y Cyngor.
Gohirio’r Rheolau Sefydlog
6. Cyfle i’r Cyhoedd annerch Y Cyngor:
Ni gyflwynwyd unrhyw sylwadau gan aelodau’r cyhoedd oedd yn bresennol
Adfer Rheolau Sefydlog
7. Cyllid.
Balans Banc,06/06/2018
Cyfrif y Dreth £16,227-25 Cyfrif H G Owen. £16,994-33 Cyfanswm. £33,221-58
Taliadau
7.1 09/05/18 Hosbis Sant Cyndeyrn Llanelwy. £500-00
7.2 16/04/18 Debyd Uniongyrchol, TT&B Williams, Rhent Swyddfa Post. £151-66
7.3 10/05/18. British Gas. Trydan, Siop Canol Llan, Llansannan. £114.30
7.4 31/05/18. Arfon Wynne, Gwaith yn y Gymuned, Mynwent, £138.00. Strimio safleuodd bws, £133.93. Llwybrau, £1324.06. £1,595-99 Cyfanswm £2,361-95
PENDERFYNWYD: Cymeradwyo fod y ffigyrau uchod yn gywir. Cymeradwyo talu oll o’r taliadau uchod
Derbyniadau
7.5 22/05/18 R W Roberts, Ymgymerwyr £200-00
7.626/04/18HMB Enterprise Ltd,Swyddfa Bost Flint Rhent Swyddfa Post 01/01/18i31/03/18 £210-00 Cyfanswm. £410-00
Taliadau 01/04/18~20/05/18, £3,200-07 (Adran 137 [£7.86] £0.00 )
Derbyniadau 01/04/18–30/04/18 £6,877.00
Taliadau: Adolygiad cyllideb ar gyfer Mehefin 2018 TT&B Williams £151.66. Arfon Wynne, £1,595-99. CBC Conwy Scips £888-00 Cyfieithu, £100-00 Cyfanswm £2,735-65
Amcangyfrif Derbyniadau mis uchod : Ad-daliad TAW £1,924-33. Cyfanswm. £1,924-33
8.Rhybydd o Geisiadau am Ganiatad Cynllunio:
8.1 10/05/2018 Cyfeirnod 0/45123. Ymgeisydd: Mr Ian Wells. Dwyrain 297534. Gogledd 361426. Cynllun: Estyniad I’r ddwy ochr ac yn y cefn,gosod golau to,cladin allanol ac addasiadau mewnol ac allanol.
Safle: Denmoor Bungalow,The Filling Station, Taldrach to Nant Y Lladron, Bylchau Llansannan Conwy LL16 5LS Sylwadau , 31/05/2018.
8.2 24/05/2018 Cyfeirnod 0/45176. Ymgeisydd: Mr & Mrs B&G Evans. Dwyrain 297941. Gogledd 362551. Cynllun: Uned amaethyddol newydd arfaethedig i storio defaid, bwyd anefeiliaid a gwair. Safle: Hafod Dafydd ,Bylchau, Llansannan, Conwy LL16 5SN Sylwadau, 14/06/2018.
8.3 29/05/2018 Cyfeirnod 0/45186. Ymgeisydd: Messrs T Lloyd Griffiths & Partners. Dwyrain 296739. Gogledd 365532.Cynllun: Adeiliadu annedd ar gyfer menter wledig amaethyddol. Safle: Tan Tryfan,Bryn Rhyd yr Arian,Llansannan, Conwy. LL16 5NL Sylwadau, 19/06/2018.
PENDERFYNWYD: Nad oedd gan Y Gyngor unrhyw wrthwynebiad nac ychwaith unrhyw sylwadau ynglyn a'r tri cais uchod.
Gohebiaeth
9.1 17/05/18 Swyddfa’r Post, Carol Williams, Rheolwraig Ardal dros Newidiadau i’r Rhwydwaith.
12/06/18 Derbyniwyd gwybodaeth yn cadarnhau fod Postfeistr Bettws yn Rhos wedi ei benodi i
Gymeryd Swyddfa Bost Llansannan drosodd ac i ddechrau’r gwasanaeth ar y 7fed o Orffennaf 2018.
9.2 24/05/18. Trysorydd Eisteddfod Bro Aled, Llansannan. Llythyr i ddiolch i’r Cyngor am
gyfraniad 0 £500-00 tuag at eisteddfod 2018.
9.3 30/05/18. Peter Alexander, Hospis St Kentigern Hospice Llanelwy. E-bost i ddiolch am gyfraniad
£500-00 gan y Cyngor i’r hosbis.
9.4 01/06/18, Hafwen Davies, Clwt. E-bost yn egluro’r sefyllfa beryglus sydd yn Clwt wrth groesi’r
ffordd fawr.
9.5 01/06/18, Vic Turner, ERF CBS Conwy CBC.
Diolch am eich e-bost ar 2 Mai. Ymddiheuriadau am yr oedi yn fy ateb.
Ni allaf ychwanegu unrhyw sylwadau pellach at fy ymateb blaenorol ynglŷn a’r derfyn cyflymder o 20mya a gofynnwyd amdano.
Ynglyn eich gofyniad am arwydd "Ysgol" ar gyffordd yr A544 a B5382, ni ystyrir bod hyn yn angenrheidiol gan fod arwydd "Ysgol" ar y A544 y bydd unrhyw un sy'n troi i'r dde o'r B5382 yn gweld cyn mynd ar y briffordd tuag at yr ysgol .
PENDERFYNWYD: I’r clerc ail-gysylltu i fynegi anfodlonrwydd Y Cyngor i ymateb CBS Conwy ynglyn a’r sefyllfa berygl sydd yn bodoli wrth fynedfa Ysgol Bro Aled.
PENDERFYNWYD: I gysylltu gyda David Jones Aelod Seneddol Gorllewin Clwyd a hefyd Darren Millar Aelod Y Cynilliad.
9.6 02/06/18. Cymdeithas Chwaraeon Bro Aled. Cais am gymorth ariannol
PENDERFYNWYD: Cyfranu y swm o £552-15, tuag at gostau Yswiriant Cymdeithas Chwaraeon Bro Aled
9.7 Wynford Jones Dalar,Llansannan, Amcanbris am hysbyswrdd i Bryn Rhyd-yr-Arian. Deunyddion: derw,’plywood’’perspex’’fibreboard’ colfachau ,staen ayb.£200, Llafur £200. Cyfanswm £400-00.
PENDERFYNWYD: Ceisio am amcanbris arall gan gyfeirio at yr un deunyddiau a nodwyd yn y pris uchod.
10. Unrhyw fater arall
10.1 Cadarnhau a chymeradwyo y datganiadau cyfrifyddu a’r Datganiad Llywodraethu Blynyddol.
Cyflwynwyd Y Datganiadau uchod i’r Cyngor a darllenwyd adroddiad a sylwadau’r Archwilydd Mewnol.
PENDERFYNWYD: Derbyn Yr Adroddiad a’r Datganiad Cyfrifyddu a’r Datganiad Llywodraethu
Yn ddogfen gywir a’i chyflwyno maes o law i’r Archwiwyr Allanol
11. Unrhyw fater a ddygwyd i sylw’r Clerc cyn y cyfarfod,
Cae Chwarae Ffordd Gogor: Tynnodd y clerc sylw’r Cynghorwyr i nifer o waith cynnal a chadw sydd angen ei wneud yng Nghae Chwarae Ffordd Gogor. Awgrymwyd fod cyfarfod gyda CBS Conwy yn cael ei drefnu .
12. Cadarnhau dyddiad a lleoliad cyfarfod nesaf Y Cyngor. Neuadd Goffa Plwyf Y Bylchau am 7-30yh Gorffennaf 11eg 2018

MINUTES OF MEETING HELD ON WEDNESDAY 13th JUNE 2018 at 7-30pm NEUADD GOFFA PLWYF Y BYLCHAU, GROES
Present: : Cllrs. Celfyn Williams (Chairman) Emrys Owen, Delyth Williams, Bethan Jones, Guto Davies, Trefor Roberts, Berwyn Evans, Meurig Davies. Elwyn Jones
Members of the Public. E M Jones, Philip Coombes, J Beattie, Llanfairtalhearn, Dwysan Williams (Translator) Emrys Williams (Clerk)
1. Apologies Cllr Gareth Jones, Glyn O Roberts.
2. Declarations of Interest, Code of Local Government Conduct:
Cllr, Delyth Williams , 7. Finance, 7.2 TT & B Williams, Post Office rent.
Cllr, Trefor Roberts, 9. Correspondence 9.6, Llansannan Sports Association.
3. Approval of the Councils previous meeting’s minutes: (09/05/18)
IT WAS RESOLVED: To approve and sign the minutes of the Council’s meeting held on 09/05/18
4. Matters arising from the minutes There were no matters arising, other than those appearing under items on the agenda.
5. County Councillor’s monthly report .
The County Councillor presented a synopsis of her council related diary from the 11th of April until the date of the meeting. The County Cllr refereed to her recent appointment as chair of Conwy CBC Planning Committee. Cllr Celfyn Williams congratulated her on her appointment.
Suspend the Standing Orders
6. Public’s opportunity to present statements . No statements were presented.
Reinstate Standing Orders
7. Finance. Statements of Bank Accounts. 06/06/2018.Community Council Accounts
£16,227-25 H G Owen Accounts £16,994-33
Total £33,221-58
Payments.
7.1 09/05/18 St Kentigern Hospice, St Asaph. £500-00
7.2 16/04/18 Standing Order, T T&B Williams, Post Office rent. £151-66
7.3 10/05/18. British Gas.Electricity, Siop Canol Llan ,Llansannan. £114.30
7.4 31/05/18. Arfon Wynne, Work in the Community.Cemetery £138.00. Bus shelters £133.93. Footpaths £1324.06 £1,595-99 Total £2,361-95
RESOLVED: That all the above payments are correct, and that all the above payments be paid
Receipts
7.5 22/05/18 R W Roberts Funeral Directors £200.00
7.6 26/04/18 HMB Enterprise Ltd,Swyddfa Bost Flint Post Office rent 01/01/18i31/03/18 £210-00 Total, £410-00
Payments. 01/04/18-20/05/18,£3,200-07 (Section 137 [£7.86] £0.00 )
Receipts, 01/04/18–20/05/18 £6,877.00
Payments.Review of Budget for June 2018. TT&B Williams £151.66. Arfon Wynne £1,595-99. Scips, CBS Conwy £888-00, Translation, £100-00 Total £2,735-65 Estimated Receipts for above month :
VAT Refund £1,924-33. Total: £1,924-33
8. Notice of applications for Planning Permission
8.1 10/05/2018 Reference: 0/45123. Applicant: Mr Ian Wells. Easting 297534. Northing 361426. Proposal: Extensions to both side and rear elevations installation of rooflights external cladding and internal and external alterations.
Location: Denmoor Bungalow,The Filling Station, Taldrach to Nant Y Lladron, Bylchau Llansannan Conwy LL16 5LS Representations 31/05/2018.
8.2 24/05/2018 Reference: 0/45176. Applicant: Mr & Mrs B&G Evans. Easting 297941. Northing 362551.Proposal: Proposed new agricultural unit to store sheep,feed and hay. Location: Hafod Dafydd, Bylchau, Llansannan, Conwy LL16 5SN
Representations 14/06/2018.
8.3 29/05/2018 Reference: 0/45186. Applicant: Messrs T Lloyd Griffiths & Partners. Easting 296739. Northing 365532. Proposal: Construction of agricultural rural enterprise dwelling. Location: Tan Tryfan, Bryn Rhyd yr Arian,Llansannan, Conwy. LL16 5NL
Representations 19/06/2018.
RESOLVED: No comments nor objections were voiced against the above 3 (three) applications.
9. Correspondence
9.1 17/05/18. Post Office, Carol Williams, Area Network Change Manager.
12/06/18. Confirmation to the effect that Betws-yn-Rhos Postmaster will be providing a postal
service at Llansannan Post Office from the 7th of July 2018
9.2 24/05/18. Treasurer, Eisteddfod Bro Aled, Llansannan. Acknowledgement of the Council’s
£500-00 donation to 2018 Llansannan Eisteddfod.
9.3 30/05/18. PeterAlexander, St Kentigern Hospice St Asaph. Acknowledgement of the Council’s £500-00 donation to the hospice.
9.4 01/06/18, Hafwen Davies, Clwt. E-mail regarding the dangerous situation in Clwt when crossing the main road with farm stock.
9.5 01/06/18, Vic Turner, ERF Conwy CBC. E-mail to the effect that Conwy CBC are unable to add to the comments previously sent regarding a 20mph limit on traffic in the vicinity of Ysgol Bro Aled. Regarding the request for a ‘School’ sign at the junction of A544 ad B5382; again CCBC deemed this unnecessary .
RESOLVED: That the clerk should relay the disappointment of the Community Council to CCBC decisions regarding the aforementioned situation.
RESOLVED: That the clerk correspond with David Jones MP and Darren Miller Welsh Assembly member regarding regarding the aforementioned issue.
9.6 02/06/18 Cymdeithas Chwaraeon Bro Aled Sports Association, Request for financial contribution.
RESOLVED: To donate the sum of £552-15 towards the Associations Insurance costs.
9.6 Wynford Jones Dalar, Llansannan, Estimate for notice-board at Bryn Rhyd-yr-Arian. Materials: Oak, plywood, fibreboard, hinges, stain £200, Labour £200, Total £400-00
RESOLVED: To procure other estimates quoting the same materials as aforementioned estimate.
10. Any other business
10.1 Confirm and approve the accounting statements and the Annual Governance Statement.
The Accounting Statements, Annual Governance Statement and the Internal Auditor’s Report were presented to the Council.
RESOLVED: That the Accounting Statements, Annual Governance Statement and the Internal Auditor’s Report be presented to the External Auditor as correct documents
11. Any issues brought to the Clerk’s attention prior to the meeting
Cae Chwarae Ffordd Gogor Playing Field: The clerk drew the Councillors attention to the maintenance work that needs attention at the field. It was suggested that site meeting should be arranged
12. Confirm date and venue of next Council Meeting Neuadd Goffa Plwyf Y Bylchau . July 11th 2018 at 7-30pm

Cofnodion Mis Mehefin 2018 / June Minutes Statistics: 0 click throughs, 159 views since start of 2024

Cofnodion Mis Mehefin 2018 / June Minutes

Cyngor Cymuned Llansannan Community Council Henllan Conwy

Powered by Your Tourism Community

Cyngor Cymuned Llansannan Community Council Statistics: 67 click throughs, 41174 views since start of 2024