Cyngor Cymuned Llansannan Community Council Bro Aled

Rhybudd Gwahardd Cwn / Dog Control Orders

Ymgynghori ynglyn â Gorchmynion Rheoli Cwn
(Llansannan)
Dan ran 6 Deddf Cymdogaethau Glân a’r Amgylchedd 2005, mae
Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy yn bwriadu gwneud 2 orchymyn rheoli
cwn yn ardal Llansannan. Y cynnig yw cyflwyno ardaloedd gwahardd
cwn ar gyfer: y cae pêl-droed, y lawnt fowlio, y llecyn gemau
amlddefnydd a man chwarae Maes Aled. Cynigir hefyd gosod
gorchmynion cwn ar dennyn ar gyfer yr ardaloedd hynny o amgylch y
cae pêl-droed, y lawnt fowlio, y llecyn gemau amlddefnydd ar gaeau
chwarae Llansannan, gan gynnwys y llwybr cyhoeddus trwy’r caeau
chwarae.
Mae’n rhaid gwneud y gorchmynion rheoli hyn oherwydd nifer y
cwynion a dderbyniwyd am gwn yn baeddu ar y cae pêl-droed a
mannau chwarae ac nid oedd y perchnogion wedi glanhau ar eu holau.
Mae hyn yn peryglu iechyd y cyhoedd ac felly’r unig ffordd i atal cwn
rhag baeddu yw rheoli gweithgarwch cwn yn yr ardaloedd hyn.
Effaith y gorchmynion fydd ei gwneud hi’n drosedd i ganiatáu cwn fynd
i’r ardal gwahardd cwn, neu nad ydynt ar dennyn yn yr ardaloedd
hynny y mae’r Gorchymyn yn berthnasol iddynt. Gellir cosbi trosedd fel
hon ar gollfarn gan ddirwy hyd at £1000.
Gallwch weld map sy’n dangos maint yr ardaloedd gwahardd cwn a’r
ardaloedd cadw cwn ar dennyn, am ddim yn ystod oriau rhesymol o
ddydd Llun i ddydd Gwener yn y Swyddfeydd Dinesig, Bae Colwyn,
LL29 8AR.
Os ydych yn dymuno cyflwyno sylwadau, mae’n rhaid gwneud hynny’n
ysgrifenedig a’u hanfon at y Rheolwr Gorfodi Cynllunio a’r Amgylchedd,
Swyddfeydd Dinesig, Bae Colwyn LL29 8AR. Neu gallwch anfon e-bost
at: Click to email erbyn hanner nos 6 Awst 2009.
Ni fyddwn yn ystyried unrhyw sylwadau a fydd yn cael eu derbyn ar ôl
y dyddiad hwn.
Dog Control Orders (Llansannan)
Consultation
Under part 6 of the Clean Neighbourhoods and Environment Act
2005, Conwy County Borough Council propose to make 2 dog
control orders in the Llansannan area. The proposal is to introduce
dog exclusion zones covering the following areas; The football pitch,
bowling green, multi use games area and Maes Aled play area, and to
have a dog on leads order to apply to those areas surrounding the
football pitch, bowling green and multi use games area within
Llansannan playing fields including the public footpath which runs
through the playing fields.
It has been necessary to make these control orders due to the number
of complaints received that dogs have been fouling the football pitch
and play areas and the owners have failed to clean up after them. This
presents a public health risk and therefore the only way to prevent this
is to control dog activity in these areas.
The effect of the orders means it will be an offence to allow a dog into
a dog exclusion zone or not have a dog on a lead in those areas where
the Order applies. Such an offence is punishable on conviction by a
maximum fine of £1000.
A map showing the exclusion zones and the dogs on leads area can
be viewed free of charge at The Civic Office, Colwyn Bay, LL29 8AR at
all reasonable hours Monday to Friday.
Anyone wishing to make any representations must do so in writing to
the Planning and Environment Enforcement Manager at Civic Office
Colwyn Bay LL29 8AR or by email to
Click to email by midnight on 6th August 2009.
Any representations received after this day will not be considered.

Rhybudd Gwahardd Cwn / Dog Control Orders Statistics: 0 click throughs, 302 views since 09-Jul-2009

Rhybudd Gwahardd Cwn / Dog Control Orders

Cyngor Cymuned Llansannan Community Council Llansannan Conwy

Powered by Your Tourism Community

Cyngor Cymuned Llansannan Community Council Statistics: 26 click throughs, 7765 views since 24-Sep-2008