Cyngor Cymuned Llansannan Community Council Bro Aled

Cyfarfod Mis Mehefin 2010 (CBC) June 2010 meeting (AGM)

Cofnodion y Cyfarfod Blynyddol Cyffredinol a gynhaliwyd Nos Fercher y 9fed o Fehefin 2010 yng Nghanolfan Addysg Bro Aled Llansannan am 7.30yh,

Agorwyd y cyfarfod gan Geraint Davies.

Presennol: Robin Davies, Celfyn Williams, Berwyn Evans, Geraint Davies, Eifion Jones, Glyn O Roberts, Trevor Roberts, Alwyn Williams, Trefor Williams, Sue Lloyd-Williams, Swyddog Rhawd Cymunedol Einion Huws ac Eifion Jones, Clerc

1 Ymddiheuriadau. Edna Jones, Elwyn Jones
2. Cyfle i Ddatgan Diddordeb Personnol ar unrhyw fater isod. Dim datganiadau
3. a. Penodi Cadeirydd am y flwyddyn 2010/2011 Penodwyd Geraint Davies.
b. Penodi Is-gadeirydd am y flwyddyn. 2010/2011 Penodwyd Berwyn Evans
c. Penodi aelodau a’r bwyllgorau am y flwyddyn 2010/2011
Un Llais Cymru. CelfynWilliams a Berwyn Evans
Mynwent y Plwyf. Geraint Davies, Trefor Roberts, Trefor Williams, Berwyn Evans
Cymdeithas Chwaraeon Bro Aled. . Geraint Davies, Trefor Roberts, Eifion Jones
Llwybrau cyhoeuddus y Plwyf. Geraint Davies, Celfyn Williams, Glyn O Roberts, Alwyn Williams. Cyfetholwyd Rhiannon Davies, Arfon Wynne a Cath Williams
Pwyllgor rheoli Ysgol Bro Aled Llansannan. (Ymddiriedolwr) Edna Jones
Taflen Wybodaeth y Cyngor. Celfyn Williams, Trefor Roberts, Trefor Williams, Alwyn Williams, Edna Jones, Eifion Jones
Pwyllgor Rheoli’r Ganolfan. Mr Eifion Jones
Materion Ariannol. Geraint Davies, Berwyn Evans
4. Darllen, Derbyn a Llofnodi Cofnodion y Cyfarfod Diwethaf. (12-05-2010). Penderfynwyd ei bod yn gywir ac fei llofnodwyd gan y cadeirydd Geraint Davies.
5. Ardoddiad y Clerc.
1. Sedd wag Achlysyrol y cyngor. Rhybydd wedi ei ddangos ers y 14eg o Fai 2010. (Cyfnod i’r Cyhoedd gysylltu er cynnal etholiad wedi dod i derfyn ar y 4ydd o Fehefin 2010)
2. Dychweliad Blynyddol 31ain o Fawrth 2010. Cyfrifon y Cyngor gyda’r Archwilydd Mewnol, Gareth Jones ar hyn o bryd. Byddant yn cael ei llofnodi’n ystod cyfarfod Mis Gorffennaf a gyda’r Archwilydd Allanol, Hacker Young, erbyn 31ain o Orffennaf 2010
3. Llwybr 37, Llansannan. Oherwydd anfodlonrwydd y perchenog tir ni fydd hwn yn cael ei gynnwys ar y rhestr o’r rhai i wneud gwellianau er defnydd gan deuluoeddl efo coetsh gadair (push chair)
4. Cyfarfod Cyffredinol i Gadeiryddion a Chlercod Cynghorau Tref a Chymuned. Wedi mynychu a cael cyfle i drafod amryw o faterion efo’r Prif Weithredwr Dros Dro a Swyddogion y Cyngor Sir. (e.e diffyg cyfathrebu, cau toiledau, dwyieithrwydd)
6. Cyfle i’r Cyhoedd annerch y cyfarfod. Dim aelodau’n bresennol
7. Materion y Cyngor. 1 Sedd wag y Cyngor. Gweler 5 Adroddiad y Clerc, 1. 2. Penodi Archwilydd Mewnol y Cyngor. Penodwyd Mr Gareth Jones, 10, Cae’r Gofaint Groes.
8. Cynllunio. .Dim wedi ei derbyn
9. Adroddiad y Cynghorydd Sir. Rhanwyd copi i’r Aelodau a oedd yn bresennol Cyfeirwyd at nifer o gyfarfodydd sirol ac eraill. Cafwyd gwybodaeth fod nifer o opsiynnau ar gyfer gwelliannau i’r gyffordd yn y Groes i’w trafod yn fuan. Comisiwn Ffiniau Llywodraeth Leol i Gymru Cynigir newid at leihau nifer y Cynghorwyr Sirol o 59 i 57. Rhif 2 Maes Aled. Gobeithir y bydd teulu lleol yn derbyn tenantiaeth yr annedd yma ac na fydd byth eto weld ail adrodd o’r sefyllfa a godwyd yn gynharach yn y flwyddyn efo ymddygiad gwrth-gymdeithasol
10. Adroddiad Ariannol. £12828.14
11. Caniatáu Taliadau. 1. Eifion Jones £815.00 Cyflog Ebrill i Fehefin 2010 2. Eifion Jones £74.27 Costau Ebrill i Fehefin 2010. 3. Domain Renewal Group £35.00 (Cofrestru enw’r wefan am 2 flynedd). 4. Cist Cymunedol Clwyd £10.00 (aelodaeth 2010-2011) 5. Arfon Wynne £94.00 Torri’r Fynwent Mis Mai. 6. Arfon Wynne £193.43 Gwaith llwybrau. 7. Arfon Wynne £66.63 Gosod mainc yn y Groes. 8. Gapel y Groes £15.00. Cyfraniad am ddefnydd o’r festri i gyfarfod o’r Cyngor, Mis Mai.
Penderfynwyd ar wneud y taliadau blaenorol heblaw am rhif 3 sydd ddim yn ddyledus tan mis Hydref 2010
12. Gohebiaeth. 1. Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy, Gwasanaethau Cyfreithiol a Democrataidd, parthed Sedd Wag Achlysurol, Cyngor Cymuned Llansannan. Er gwybodaeth
2 Cartrefi Conwy, parthed 2, Maes Aled Llansannan. Er gwybodaeth
3 Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy, Busnes a Datblygu, parthed Arolwg cyfleusterau pentrefi gwledig. Penderfynwyd ei anfon yn ôl wedi gwneud nifer o gywiriadau i’r ddogfen.
4 Un Llais Cymru parthed, Hysbysiad am Gynhadledd a Chyfarfod Cyffredinol Blynyddol 2010 Er gwybodaeth
5 Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy, Gwella a Datblygu Corfforaethol, parthed Ymgynghoriad ar gynllun datblygu lleol (CDLl) i’w archwilio Conwy Sylwadau-Rhan 2. Er gwybodaeth
6 Cyngor Sir Ddinbych parthed Cynllun Datblygu Lleol Sir Ddinbych 2006-2021. hysbysebiad Cyhoeddus o Gofrestr Safleoedd Amgen. Er gwybodaeth
7 Un Llais Cymru parthed: Arolwg o Drefniadau Etholiadol Cynigion Drafft-Conwy. Er gwybodaeth
8 Cymdeithas y Clercod, parthed: Cynhadledd undydd i Glercod Mis Gorffennaf 2010. Er gwybodaeth
9 Cist Gymunedol Clwyd. Gwahoddiad i ymaelodi 2010-2011 a rhaghysbysiad am gyfarfod blynyddol. Penderfynwyd a’r ymaelodi.
10 Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru, parthed: Ymgynghoriad Cwynion Cymru. Er gwybodaeth.
11 Cartrefi Conwy Parthed Ymddygiad Gwrthgymdeithasol Maes Aled, Llansannan. Er gwybodaeth.
12 CAB Cylch Conwy, parthed Yr Wybodaeth ddiweddaraf i Aelodau CAB Cylch Conwy
13 David Jones AS parthed Ymddygiad Gwrthgymdeithasol Maes Aled, Llansannan. Er gwybodaeth
14. Cwyn am gyflymdra trafnudiaeth heibio Ysgol Bro Aled (trigolyn lleol) Penderfynwyd anfon y gwyn ymlaen at y Gwasanaeth Priffyrdd.
15 Glasdir. Rhwydwaith Gwledig Cyfleusterau Cymunedau. Gwahoddiad i gyfarfod
16 NSPCC. Manylion am ddigwyddiad a cais am gyfraniad ariannol.
13. Unrhyw fater arall 1. Adroddiad Einion Huws Cyfeiriodd am orfod treulio mwy o amser ym Mae Cinmel oherwydd prysurdeb tymhorol yr ardal. Mae newid wedi bod hefyd yn ei rota oriau gwaith. Maent nawr yn 7.00yb-5.00yp / 12.00yp-10.00yh / 05.00yb-2.00yp. Hefyd cyfeiriodd at broblemau efo reidio beiciau modur ar Fynydd Hiraethog yn anghyfrithlon. 2. Diffyg parchusrwydd at gleifion yn Ysbyty Glan Clwyd. Cafwyd cwyn efo dau esiampl diweddar o hyn. Cyfeirwyd y gwyn tuag at y Cynghorydd Sir.3. Cyflwr nifer o lwybrau cyhoeddus y fro. Pasiwyd y wybodaeth i’r Clerc

Dyddiad, lleoliad ac amser y cyfarfod nesaf

Neuadd Goffa Plwyf y Bylchau, Groes Nos Fercher y 14eg o Orffennaf 2010 am 7.30yh

Cofnodion Heb ei Derbyn

Minutes of the Annual General Meeting held on Wednesday 9th June 2010 at the Bro Aled Education Centre Llansannan at 7.30pm

Geraint Davies opened the meeting

Present: Robin Davies, Celfyn Williams, Berwyn Evans, Geraint Davies, Eifion Jones, Glyn O Roberts, Trefor Roberts, Alwyn Williams Trefor Williams, Sue Lloyd-Williams Pc Einion Huws and Eifion Jones-Clerk.
1. Apologies: Edna Jones, Elwyn Jones
2. Opportunity for Declaration of Personal interest on matters below: No declarations made.
3. Appointment of Chairman, 2010 / 2011 Geraint Davies appointed.
b. Appointment of Vice Chairman 2010 / 2011 Berwyn Evans appointed
c. Appointment of committee members for 2010 / 2011
One Voice Wales: Celfyn Williams and Berwyn Evans
Parish Cemetery: Geraint Davies, Trefor Roberts, Trefor Williams, Berwyn Evans
Bro Aled Sports Association: Geraint Davies, Trefor Roberts, Eifion Jones
Parish footpaths: Geraint Davies, Celfyn Williams, Glyn O Roberts, Alwyn Williams. (Rhiannon Davies, Arfon Wynne and Cath Williams co-opted)
Bro Aled School Management Committee: (Trustee) Edna Jones
Information Leaflet: Celfyn Williams, Trefor Roberts, Trefor Williams, Alwyn Williams, Edna Jones, Eifion Jones
Bro Aled Community Centre, Management Committee. Eifion Jones
Finance committee: Geraint Davies, Berwyn Evans
4. Read, Accept and sign the minutes of the last meeting. (12-05-2010) It was decided that they were correct and were signed by the Chairman, Geraint Davies.
5. Clerk’s Report:
1. Council’s Vacant Seat. Notice of this in situ since the 14th May 2010. (the period for members of the public to request an election ended on 4th June 2010)
2. Annual Return for 31st March 2010. The accounts currently with the Internal Auditor, Gareth Jones. These will be signed during the July meeting and be sent to the External Auditor, Hacker Young by 31st July 2010
3. Llansannan Path no 37. Due to the lack of permission from the landowner, this path will not be included amongst those for improved access by families with pushchairs
4. General Meeting for Clerks and Chairmen of Town and Community Councils . Attended and had an opportunity to discuss a number of issues with the Acting Chief Executive and Council Officers (eg. Failure in communication, toilet closures, bilingualism)
6. Opportunity for the Public to address the meeting. No members present
7. Council Matters. 1.Council Vacancy. See 5. Clerk’s Report 1. 2. Appoint the Council’s Internal Auditor. Mr Gareth Jones 10 Cae’r Gofaint Groes appointed.
8. Planning Applications:None
9. County Councillor’s Report. A written report was circulated to members present. References were made to a number of attended meeting, County and others. Information received that a number of options are being considered for improving the cross roads at Groes. Boundaries Commission for Wales. Suggestion for reducing the number of County Councillors from 59 to 57. No 2 Maes Aled. It is hoped that this dwelling will shortly be occupied by a local family and that the antisocial behaviour experienced earlier in the year will never be repeated.
10. Financial Report. £12828.14.
11. Authorizing of payments. 1.Eifion Jones £815.00 Salary April-June 2010. 2. Eifion Jones £74.27 Expenses April-June 2010. 3. Domain Renewal Group £35.00 (Web site registration for two years). 4. Clwyd Community Chest £10.00 (membership 2010-2011). 5. Arfon Wynne 94.00 Mowing of cemetery May. 6. Arfon Wynne £193.43 Footpath maintenance work. 7 Arfon Wynne £66.63 Installation of a bench at Groes. 8. Groes Chapel £15.00 Donation for use of the vestry for the May meeting. It was agreed that these payments be approved with the exception of 3 which is not due until October 2010
12. Correspondence 1. Conwy County Borough Council, Legal and Democratic Services re. Occasional Vacancy, Llansannan Community Council. For information
2. Cartrefi Conwy, re No 2 Maes Aled. For information
3. Conwy County Borough Council, Business and Development re. Rural village facilities survey. It was agreed that it be updated and returned.
4. One Voice Wales, re Notice of the Annual General Meeting 2010. For information
5. Conwy County Borough Council, Corporate Improvement and Development, re. Consultation on the Conwy Deposit Local Development Plan (LDP) Representations Report-Part 2. For information.
6. Denbighshire County Council, re. Denbighshire Local Development Plan 2006-2021 Public Advertisement of the Alternative Sites Register. For information.
7. One Voice Wales, re. Draft Review of Conwy Electoral Arrangements. For information.
8. Society of Local Council Clerks. Information on a one day training course. For information.
9. Clwyd Community Chest. Membership invitation 2010-2011 and notice of the AGM. It was agreed that the membership be paid.
10. Public Services Ombudsman for Wales, re. Complaints Wales Consultation. For information.
11. Cartrefi Conwy re Antisocial behaviour in Maes Aled. For information
12. CAB Conwy District. Latest information for CAB membership in Conwy. For information.
13. David Jones MP re Antisocial behaviour in Maes Aled. For information.
14. Complaint by local resident about speeding traffic passing the Bro Aled School. It was agreed that this be forwarded to the Highway Services of Conwy Council.
15. Glasdir Communities Facilities Rural Network . Invitation to a meeting
16. NSPCC. Information on a forthcoming event and request for a financial donation
14. Any other business. 1. Pc Einion Huws. He stated that due to the seasonal activities in Kinmel Bay (increase in tourist numbers) he is having to spend more time in that area. Changes have also been implemented in the shift rota. They are now 7.00am-5.00pm / 12pm-10.00pm / 5.00am-2.00pm. Reference was also made to illegal use of Hiraethog Moor by motorcyclists. 2. Lack of respect shown to patients at Ysbyty Glan Clwyd. A complaint regarding two recent cases of this. The complaint passed to the County Councillor. 3. Condition of a number of local footpaths in the area. This information passed onto the Clerk.

Date, Time and place of the next meeting

Bylchau Parish Memorial Hall, Groes Wednesday y 14th July 2010 at 7.30pm

These Minutes Have Not Been Adopted

Cyfarfod Mis Mehefin 2010 (CBC) June 2010 meeting (AGM) Statistics: 0 click throughs, 62 views since start of 2010

Cyfarfod Mis Mehefin 2010 (CBC) June 2010 meeting (AGM)

Cyngor Cymuned Llansannan Community Council Llansannan Conwy

Powered by Your Tourism Community

Cyngor Cymuned Llansannan Community Council Statistics: 52 click throughs, 5268 views since start of 2010